"Dros 2 biliwn o bobl wedi chwarae fy ngemau"

  • Cyhoeddwyd
OsianFfynhonnell y llun, Osian Taubman
Disgrifiad o’r llun,

Osian

Mae Osian Taubman, 28 yn byw ger y Wyddgrug. Mae ganddo 350,000 o danysgrifwyr ar YouTube ac mae ei fideo mwyaf poblogaidd wedi cael ei wylio 15 miliwn o weithiau.

Fat Paps

Dechreuodd siwrne Osian ar YouTube ar ôl iddo ymuno â band. Y bwriad oedd hyrwyddo caneuon y band ar y sianel.

Ond ar ôl cael ei annog gan ei ffrindiau, dechreuodd sianel o'r enw 'Fat Paps', gyda'r bwriad o wneud fideos comedi, sgetsys doniol ac adloniant byr.

Ffynhonnell y llun, Fat Paps Ltd.
Disgrifiad o’r llun,

Logo sianel YouTube Osian - Fat Paps

Dywedodd Osian: "Nes i gwpl o fideos sili ar YouTube ag aethon nhw'n reit fawr. Dechreuodd o hynna a datblygu yn gyflym.

"Ma' Fat Paps yn golygu 'bronnau dynion' ac roedd o'n rhywbeth doniol a bachog ond hefyd yn deyrnged i fy llys Dad a fu farw cyn i mi ddechrau'r sianel.

"Y rheswm yw oedd Mam yn dweud bo ganddo fo 'fat paps'!

Dechreuodd Osian y sianel yma pan roedd yn 22 mlwydd oed, ac mae'n credu'n gryf i bethau dyfu pan ddechreuodd rhoi mwy o ffocws ar Roblox.

Roblox

"Dechreuodd popeth fynd yn fawr gyda Roblox, ond ar y cychwyn dim ond hobi oedd o!

Penderfynodd Osian i ddefnyddio Roblox i dyfu ei sianel, ac fe lwyddodd.

"Ges i 10mil o danysgrifwyr, wedyn 20 mil wedyn neidiodd fyny i 100 mil."

Ffynhonnell y llun, Osian Taubman
Disgrifiad o’r llun,

Osian a'i blac 100,000 o danysgrifwyr YouTube

Ac ar ôl amser a pharhau gyda'r fideos Roblox, sylwodd mai Roblox sydd yn cael y mwyaf o sylw, dim ei fideos eraill ar YouTube.

"Mae gen i un fideo ar Youtube sydd gyda dros 14 miliwn hit," eglurodd Osian.

"Ma gen i uffar o lot o negeseuon ar fy sianel Fat Paps hefyd. Dydy o ddim yn bosib darllen nhw i gyd. Ma dros 100,000 o negeseuon heb ei darllen yna. Bydde fe yn cymryd wythnosau, falle misoedd i fi ddarllen ac ateb bob un!"

"Ar y Roblox, ar gyfartaledd mae datblygwr gemau yn cael un neu ddwy gêm ar y sianel. Ond mae gen i bump!

Beth yw Roblox?

Nid gêm sengl yw Roblox, ond yn hytrach casgliad o fwy na 50miliwn o gemau gwahanol ar wefan, pob un wedi'i greu gan y gymuned o chwaraewyr a datblygwyr gemau.

Y gymhariaeth symlaf yw YouTube: llyfrgell enfawr o "gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr", ond yn yr achos hwn, gemau yn hytrach na fideos yw'r cynnwys.

"Mae bron pob un plentyn yn y byd wedi chwarae Roblox, neu o leia wedi clywed amdano fo," dwedodd Osian.

"Fi sydd wedi creu popeth ar gyfer fy ngemau, y sgriptio, y graffeg, yr adeiladu. Ar ôl hynny ti'n rhyddhau nhw ar y sianel. Mae unrhyw un yn gallu chwarae o wedyn. Ac yn ddibynnol ar lwyddiant y gêm, faint o bobl sydd yn chwarae dy gêm, dyna sut ti'n gwneud incwm.

Mae Osian yn cyfrif ei hun yn lwcus. Gan ei fod wedi bod wrthi am dros ddeng mlynedd bellach yn dylunio gemau, mae nawr yn gwybod beth yn union mae pobl yn mwynhau chwarae, pa gemau sy'n boblogaidd a beth sydd ddim.

Ffynhonnell y llun, Osian Taubman
Disgrifiad o’r llun,

Osian Taubman yn falch o'i lwyddiant

"Dwi wedi tyfu fyny gyda Roblox," eglura Osian.

"Mae ei net worth tua £47 biliwn heddiw.

"Dwi'n eithaf sicr i ddweud bod fi'n un o'r datblygwyr gemau mwyaf yn y byd ar Roblox, siŵr o fod yn y 250 uchaf [allan o 350,000]

"A siŵr o fod un o'r siaradwyr Cymraeg sydd gyda'r mwyaf o danysgrifwyr YouTube hefyd.

"Mae'n anodd cymharu, ond dwi yn yr un league â Justin Bieber, mae Roblox mor, mor fawr!

"Dwi'n dangos fy Nghymreictod yn fy ngemau yn aml hefyd. Mae pobl yn anfon negeseuon yn gofyn a ydw i'n Gymro, ac maen nhw'n gwybod oherwydd mae baner Cymru yn ymddangos llawer yn y gemau dwi wedi creu."

Ffynhonnell y llun, Fat Paps
Disgrifiad o’r llun,

Baner Cymru yn un o gemau Osian

Cwmni annibynnol

Ers dechrau 2021 mae Osian wedi ffurfio cwmni ei hun sef Fat Paps Ltd. Mae nawr yn cyflogi 3 o bobl eraill i ddatblygu gemau sydd wedi'u cynllunio ganddo.

Ei fwriad yw rhyddhau ei amser ei hun er mwyn ailafael yn ei sianel YouTube. Gêm mwyaf poblogaidd Osian ar hyn o bryd yw 'Escape Siren Cops Prison'.

"Dwi wedi rhyddhau hwnna ers dim ond pythefnos a mae wedi cael ei chwarae dros 78 miliwn o weithiau," eglura Osian.

"Dydy'r gemau ddim yn colli stêm ar ôl ychydig ddyddiau chwaith. Maen nhw yna am byth a maen nhw'n cael eu chwarae gan bobl o hyd, drwy'r dydd.

"Dwi bach fel y Beatles, dwi'n gwneud hit, ar ôl hit, ar ôl hit!!

Ffynhonnell y llun, Fat Paps
Disgrifiad o’r llun,

Dreigiau a chestyll - y ddylanwad Cymreig yng ngemau Osian

Datblygu gemau

"Ma na bobl sydd yn chwarae gemau, a pobl sydd yn dylunio gemau. Mae rhai yn credu bod nhw'n gweithio law yn llaw. Ond dydy o ddim yn wir," meddai Osian.

"Fy nhalent i yw gwybod beth mae pobl yn hoffi chwarae, a gallu troi o mewn i rywbeth unigryw i fi ac i eraill sydd eisiau ei chwarae.

"Fy nharged nesa yw cael tîm o bobl i wneud pethau mwy proffesiynol. Dwi'n gallu creu gemau bach sy'n para 5 munud ond er mwyn gwneud gemau mwy, ma angen tîm mawr.

"Gan fy mod i'n gwmni, dwi ar y trywydd iawn, ond rydym ni dal yn gweithio ac yn defnyddio platfform Rodblox. Falle mewn amser bydd tîm digon mawr gyda fi i wneud gemau ar gyfer Playstation.

Ffynhonnell y llun, Osian Taubman
Disgrifiad o’r llun,

Osian wrthi'n gweithio

"2 biliwn wedi chwarae fy ngemau"

"Ti'n gwybod pan ti'n ffeindio rhywbeth ti'n caru. Dwi wedi ffeindio fo," meddai Osian.

"Doeddwn i byth yn bwriadu chwarae Roblox am arian, dydw i ddim yn poeni dim am arian. Roeddwn i'n gwneud o cyn i'r arian ddod mewn.

"I fi, hwn yw fy dream job, Dyma be dwi'n licio neud. A dwi wedi ffeindio ffordd i gynnal fy mywoliaeth a mae o'n hollol amazing.

"Erbyn heddiw, mae gen i dros 2 biliwn o bobl wedi chwarae fy ngemau. I gymharu - mae Ed Sheeran gyda 2 biliwn hit ar YouTube, ma'n swm anferthol. Er bod fy wyneb i ddim ar y gemau yma, mae fy mrand i 'Fat Paps'. Fi sydd biau fo.

"Mae'r sylwadau ar ddiwedd pob fideo yn ddiddiwedd hefyd.

"Dwi wedi cael llawer o wahoddiadau i gynadleddau yn America, ond doedd gen i ddim yr hyder i fynd. Tipyn bach yn ofnus ar y pryd!

"Ges i wahoddiad wythnos diwethaf i fynd i America, i'r 'developers confrence' - mae'n anrhydedd bod y pobl sy'n berchen Roblox eisiau cwrdd â fi mewn person.

"Mae o yn union fel Jeff Bezos yn gofyn i fi gwrdd am ginio - ond yn y byd Roblox.

"Unwaith bydd Covid wedi setlo lawr, dwi'n edrych ymlaen i gymryd y cyfle yma."

Ffynhonnell y llun, Osian Taubman
Disgrifiad o’r llun,

Osian sy'n gobeithio cyfarfod perchnogion Roblox yn y dyfodol agos

Pynciau cysylltiedig