Rhedwr yn cwblhau sialens 189 copa Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhedwr wedi cwblhau sialens i redeg i fyny pob mynydd yng Nghymru er mwyn codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl.
Gorffennodd Will Renwick ei daith anferthol - i ddringo pob un o'r 189 mynydd yng Nghymru sy'n mesur dros 2,000 troedfedd (600m) - yng Nghastell Conwy ddydd Llun.
Rhedodd o leiaf 24 milltir y diwrnod ers dechrau'r siwrne 500 milltir o hyd ar 10 Medi - roedd hynny yn Abertawe.
Dywedodd Will nad oedd y llinell orffen "yn gallu dod yn ddigon buan" ar ôl iddo anafu ei bigwrn wythnos ddiwethaf.
Mae Will, sy'n 31 ac o Lancarfan ym Mro Morgannwg, wedi cyflawni'r sialens i godi arian ar gyfer elusen Mind over Mountains sy'n trefnu teithiau cerdded i hybu iechyd meddwl.
Fe wnaeth Will ddefnyddio'r diwrnodau cynnar o'r sialens fel rhan o'i ymarfer.
Dywedodd bod rhedeg ar hyd Y Mynyddoedd Du a Bannau Brycheiniog wedi datblygu ei stamina a llwyddodd i redeg dros 30 milltir ar rai diwrnodau.
"Sut mae ymarfer am rywbeth fel hyn? Dwi wedi dod yn ffit yn ystod y sialens," meddai Will, sy'n olygydd gwefan Outdoor Magic ac hefyd yn llywydd Ramblers Cymru.
Mae Will eisoes wedi cwblhau sawl sialens heriol - gan gynnwys cerdded 870 milltir dros 63 diwrnod ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru.
Mae nawr yn rhedeg ultra marathons - yn eu plith cwrs 100 milltir o hyd o gwmpas Ynys Manaw.
Ond dywedodd bod y sialens o redeg ar draws pob mynydd yng Nghymru - gan gario popeth y mae ei angen ar gyfer y daith - wedi gwthio ei gorff i'r eithaf.
"Dwi wedi blino a dwi'n oer ac eisiau bwyd, ond dwi dal yn mynd i orffen," meddai wrth siarad gyda BBC Cymru dros y penwythnos cyn gorffen y sialens.
"Mae wedi bod yn unig," ychwanegodd.
Sialens ddi-baid
Yn ystod y daith mae e wedi bod yn bwyta bariau bychain o siocled a phrydau bwyd o datws a nwdls gan eu bod yn ysgafn ac yn hawdd i'w coginio.
Roedd yn rhaid iddo ddogni ei fwyd wrth deithio ar hyd canolbarth Cymru gan bod angen treulio pedwar diwrnod heb unman i brynu bwyd.
Dywedodd mai'r mynyddoedd yn Eryri oedd y sialens fwyaf ar y daith ond ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar am garedigrwydd pobl.
Fe wnaeth un ffarmwr, meddai, ei fwydo gyda chawl a chacen tra'n aros yn ei garafán yn Aran Fawddwy ger Y Bala.
"Mae wedi bod yn wych, ond mae duwiau'r tywydd wedi taflu popeth ata'i," meddai, ar ôl i "ddigonedd o law" ddisgyn ar hyd y daith.