Oedi wrth drosglwyddo cleifion yn 'niweidio gallu'r GIG'

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth eleni bu'n rhaid i griwiau aros dros awr i drosglwyddo cleifion ar 32,699 achlysur

Mae oedi cyson wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i ysbytai yn niweidio gallu'r GIG i ofalu am gleifion mewn ffordd ddiogel, effeithiol ac urddasol, yn ôl arolygiaeth gofal iechyd.

Mae adroddiad newydd yn dweud bod oedi hir y tu allan i adrannau brys sy'n orlawn yn "ddigwyddiad rheolaidd", gydag ambiwlansys a chriwiau yn treulio miloedd o oriau yn methu ymateb i alwadau eraill.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi bod yn edrych ar effaith yr oedi ar gleifion a staff rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

Yn ystod y cyfnod hwn bu'n rhaid i griwiau aros dros awr i drosglwyddo cleifion ar gyfanswm o 32,699 achlysur.

Roedd 16,405 o'r achosion yn ymwneud â chleifion dros 65 oed.

Beth ydy'r canfyddiadau eraill?

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:

  • Bod oedi wrth drosglwyddo cleifion yn achosi risg uwch i ddiogelwch cleifion - i'r rhai sy'n aros mewn ambiwlansys a'r rhai sy'n aros yn y gymuned am ambiwlans;

  • Mae staff ambiwlansys yn teimlo'n rhwystredig am eu hanallu i gyflawni eu rolau'n effeithiol o ganlyniad i oedi, er eu bod yn gyffredinol yn dal yn gadarnhaol ac yn angerddol am eu gwaith;

  • Bod staff yn poeni am anawsterau o ran cael cleifion i gael mynediad i doiledau neu fwyd a diod, poeni am gleifion yn datblygu briwiau pwysedd ac yn pryderu am reoli heintiau tra bod cleifion yn aros yng nghefn ambiwlansys;

  • Llai na hanner staff ambiwlansys sy'n ymwybodol o bwy sydd â chyfrifoldeb ac atebolrwydd dros y claf yn eu gofal, os oedd y claf eisoes wedi cael ei asesu gan staff ysbyty, er enghraifft;

  • Bod pryderon am brosesau i godi pryderon os ydy cyflwr claf yn dirywio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae wardiau ysbytai yn llenwi pan fydd oedi cyn rhyddhau cleifion yn ôl adref neu i'r gymuned

Roedd yr adolygiad yn seiliedig ar asesiadau, cyfweliadau ac arolygon gyda dros 400 o staff y GIG a dros 100 o gleifion.

Mae sylwadau gan griwiau ambiwlans yn cynnwys:

"Mae'r cleifion sy'n aros yn y gymuned yn cael pob math o niwed am nad oes ambiwlansys ar gael oherwydd eu bod yn ciwio y tu allan i ysbytai. Yn ddiweddar rwyf wedi trosglwyddo o Loegr i Gymru ac nid yw'r broblem hon yn digwydd fawr ddim yn Lloegr ond mae'n digwydd bob dydd yng Nghymru. Gwael iawn."

"Mae'r teimlad nad problem yr ysbyty yw'r claf nes iddo ddod drwy'r drysau ffrynt yn un cyffredin. Rydyn ni fel ystafelloedd aros estynedig i ysbytai, sydd ddim yn iawn."

"Gadawyd i oedi mewn ysbytai ddigwydd heb feddwl am sicrhau bod cleifion yn cael digon i'w yfed a'i fwyta, a'u bod yn gallu mynd i'r toiled yn briodol pan fyddant yn yr ambiwlans. Ni ddarperir ar gyfer staff ambiwlans, ac yn aml byddant yn mynd oriau heb fwyd na diod."

"Nid yw stretchers ambiwlans wedi'u dylunio i gael eu defnyddio am amser hir ac mae cleifion bregus yn wynebu'r risg o friwiau pwysedd a phroblemau eraill er gwaethaf ymdrechion staff ambiwlans i'w troi nhw ac addasu'r ffordd y cânt eu gosod ar y stretcher."

'Disgwyl saith awr a chwarter'

Mae sylwadau gan gleifion yn cynnwys:

"Cefais arhosiad o bedair awr a hanner i'r ambiwlans y gofynnwyd amdano (y flaenoriaeth uchaf) gan fy meddyg teulu yn y feddygfa. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty roedd 17 ambiwlans yn aros i drosglwyddo'r cleifion. Roeddwn i'n aros am dair awr a chwarter arall."

"Roeddwn i yn yr ambiwlans rhwng 08:30 a rhywbryd tua 16:00. Fe wnaeth meddyg nifer o ymweliadau a hefyd staff nyrsio i gymryd gwaed ac i roi poenladdwyr i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud nad yw oedi wrth drosglwyddo cleifion yn broblem uniongyrchol i'r gwasanaeth ambiwlans

Ond er gwaetha'r pryderon mae'r adroddiad yn dweud bod cleifion wedi cael profiadau cadarnhaol ar y cyfan o'r gofal y derbynion nhw wrth aros gyda chriwiau ambiwlans.

Mae AGIC yn ei gwneud yn glir nad yw oedi wrth drosglwyddo cleifion yn broblem uniongyrchol i'r gwasanaeth ambiwlans - ond yn symptomatig o broblemau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan.

Mae'r ysbyty'n gorlenwi pan fo wardiau ysbytai'n llawn ac mae wardiau ysbytai'n dod yn llawn pan fydd oedi cyn rhyddhau cleifion yn ôl adref neu i'r gymuned.

Mae'r adroddiad yn gwneud 20 o argymhellion ac yn dweud bod angen i'r Gwasanaeth Ambiwlans, y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru gydweithio i wneud gwelliannau.

'Bod ar gael i ymateb yn allweddol'

Dwedodd Rhys Jones, pennaeth uwchgyfeirio a gorfodaeth AGIC: "Mae'n amlwg o'r gwaith fod pawb sy'n gweithio fel criwiau'r ambiwlansys neu'r unedau brys yn gwneud eu gorau.

"Mae'r diogelwch ac ansawdd ar flaen y gad o ran be' maen nhw'n trio gwireddu.

"Ond yn anffodus mae 'na rwystredigaethau o ran y problemau sy'n dod i'r wyneb yn yr adroddiad hwn, o ran y ffaith nad ydyn nhw'n teimlo bod nhw'n gallu gwneud y gwaith mwyaf effeithiol oherwydd y sefyllfa a'r problemau systemig sydd yn cael effaith ar eu gwaith nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl AGIC mae trosglwyddo cleifion yn symptom o'r problemau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan

Dywedodd Claire Roche o Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod y sefyllfa "mor ofidus i'n criwiau ni ag yw hi i gleifion a'u hanwyliaid, yn enwedig pan fo cleifion eraill angen ein cymorth".

"Pwynt gwasanaeth ambiwlans brys ydy darparu gofal yn syth all achub bywydau pobl a'u cymryd i'r ysbyty er mwyn cael y driniaeth sydd ei angen - mae bod ar gael yn y gymuned i ymateb i bobl yn allweddol," meddai.

"Mae angen mynd at wraidd y broblem er mwyn ei datrys, yn hytrach nag addasu nes mai hyn fydd y normal newydd."

'Cydnabod graddfa'r heriau'

Ychwanegodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes fod y gwasanaeth iechyd yn "gweithio'n ddiflino er mwyn delio gyda lefel y galw a sicrhau fod pawb yn cael eu gweld cyn gynted â phosib.

"Er bod cleifion mewn ambiwlansys yn derbyn gofal gan staff iechyd cymwys ac yn cael profiadau positif, mae cael cleifion allan o ambiwlansys ac i mewn i adrannau brys yn sydyn yn flaenoriaeth," meddai.

"Mae pwysau'n cael ei deimlo ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac mae angen cydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn delio gyda'r heriau yma yn effeithiol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod graddfa'r heriau yma a'r effaith y maen nhw'n eu cael ar staff a chleifion" a'u bod wedi darparu £25m o gyllid ychwanegol.

"Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am wella amser trosglwyddo cleifion o ambiwlansys ac ry'n ni'n disgwyl eu gweld yn gwella yn y maes yma," meddai.

"Mae ystod eang o fesurau eisoes mewn lle gan gynnwys recriwtio mwy o glinigwyr ambiwlansys, creu canolfannau gofal cynradd brys a rhaglen genedlaethol newydd er mwyn cefnogi pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty pan maen nhw'n barod."

Pynciau cysylltiedig