Angen mwy o siaradwyr Cymraeg i helpu dysgwyr

  • Cyhoeddwyd
Judi Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Ganolbarth Lloegr, dysgodd Judi Davies i siarad Cymraeg ar ôl symud i Aberdâr yn yr 80au

Mae'na alw am ragor o siaradwyr Cymraeg i helpu â chynllun sy'n rhoi'r cyfle i ddysgwyr ymarfer yr iaith.

Mae rhyw 800 o bobl yn cymryd rhan yng nghynllun Siarad ar hyn o bryd, ond mae'r galw yn cynyddu.

Dechreuodd y cynllun yn 2018, ac mae'n rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd yn rheolaidd i ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr rhugl.

Dwy sydd yn cymryd rhan yw Judi Davies a Lynsey Normanton Davies o Aberdâr.

Mae Judi yn dod o ganolbarth Lloegr, ond mae'n byw yng Nghwm Cynon ers yr wythdegau. Fe ddechreuodd hi ar y cynllun fel dysgwr ond erbyn hyn hi yw'r siaradwr rhugl.

"Dwi wedi bod yn rhan o'r cynllun Siarad ers y dechrau," meddai.

Mae'n dweud bod cael bod yn rhan o'r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi pan oedd hi'n dysgu'r iaith.

"Fy nod i wrth ddysgu Cymraeg oedd bod yn rhugl - yn swnio'n naturiol."

"Roedd yn brofiad anhygoel i fod ar y cynllun fel dysgwr - ces i bartner hyfryd gyda llawer o amynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynllun Siarad yn galluogi dysgwyr a siaradwyr rhugl i sgwrsio'n anffurfiol

Erbyn hyn mae Judi yn helpu Lynsey i ymarfer ei Chymraeg.

Mae Lynsey yn dod o Ferthyr Tudful, ac mae'n byw yn Aberdâr ers rhai blynyddoedd

Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg yn 2012 er mwyn helpu ei mab oedd yn cael addysg Gymraeg.

Mae cael cwrdd â Judi yn rheolaidd wedi bod yn newid byd iddi, meddai.

"Mae'n brofiad arbennig. Clywes i am y cynllun pan oeddwn ni'n astudio gyda Chanolfan Gymraeg Morgannwg, ac fe wnes i ffrind newydd o'r enw Judi," dywedodd.

"Rydyn ni'n cwrdd am baned neu i fynd am dro - dwi'n gallu siarad yn rhydd, heb boeni am wneud llawer o gamgymeriadau."

Bellach mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am ragor o bobl i gymryd rhan yn y cynllun, gan fod yna fwy o ddysgwyr na siaradwyr rhugl ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lynsey Normanton Davies wedi dechrau dysgu Cymraeg i helpu'i mab gyda'i waith ysgol.

"Dyna un o'r prosiectau pwysig sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg yn eu cymunedau nhw, ac i deimlo'n rhan o'r gymuned Gymraeg," meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Mae rhan bwysig gan siaradwyr Cymraeg i'w wneud wrth groesawu dysgwyr - wrth siarad yn araf gyda nhw ac yn amyneddgar, ac i'w cyflwyno nhw i'r bywyd Cymraeg."

Mae bod yn rhan o'r cynllun yn golygu cwrdd â rhywun sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg o leiaf ddeg gwaith y flwyddyn.

Mae neges Judi Davies i unrhyw un sy'n ystyried ymuno yn glir.

"Go for it! Ewch amdani! Ti'n gwneud ffrindiau newydd, ti'n gallu mynd i'r theatr, ti'n gallu mynd am dro."

"Does dim rhaid i ti wario arian o gwbl, ti'n gallu cwrdd a siarad, ac mae'n helpu i gadw'r iaith yn fyw."

Pynciau cysylltiedig