Oriel: Gŵyl FOCUS Wales
- Cyhoeddwyd

Afro Cluster, y band ffync/hip hop o Gaerdydd yn perfformio ar lwyfan Tŷ Pawb
Gyda 250 o fandiau ar ugain llwyfan ar draws Wrecsam, mae gŵyl FOCUS Wales wedi bod yn dathlu ei degfed pen-blwydd mewn steil.
Am dridiau, gan ddechrau ar 7 Hydref, mae'r ŵyl gerddorol yn rhoi llwyfan i fandiau Cymreig ac artistiaid ar draws y byd. Oherwydd cyfyngiadau Covid, dyma'r tro cyntaf i FOCUS Wales gael ei chynnal ers 2019.


Alicia Edelweiss, o Vienna, yn perfformio yn Eglwys San Silyn. Mae Alicia wedi perfformio ar ei phen ei hun ar draws Ewrop gan gyd-weithio gyda cherddorion a pherfformwyr syrcas

Eädyth, y cerddor o Aberfan fu'n un o artistiaid Gorwelion BBC Cymru, yn perfformio yn Central

Eglwys San Silyn oedd y lleoliad trawiadol ar gyfer yr artist o Eryri, Hannah Willwood

Y band o ogledd Cymru KIM HON yn yr HWB Cymraeg

Hollie Rogers, o Lundain, yn perfformio ei cherddoriaeth gwerin/Americana yn Old No. 7 Bar

Twm Herd ac Osian Land o'r band Dienw ar lwyfan HWB Cymraeg. Fe wnaeth y ddeuawd o ardal Llanrug ffurfio nôl yn 2017

The Faps - band pync o Ganada

Emmi (Baby Brave), band o ogledd Cymru ffurfiwyd yn 2014, yn nhafarn The Royal Oak

Bottlecap, band pync o Sweden, ar lwyfan Tŷ Pawb...

... a'u drymiwr nhw yn mynd amdani

Minas - prosiect y cynhyrchydd o Gaerdydd, James Minas

Heb drefnwyr does dim gŵyl - rhai o dîm FOCUS Wales
Hefyd o ddiddordeb: