Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022: Gweriniaeth Tsiec 2-2 Cymru
- Cyhoeddwyd
Cyfartal oedd y gêm rhwng Cymru a'r Weriniaeth Tsiec yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2022, er bod Cymru wedi llawn haeddu ei hennill.
Er i Gymru agor y sgorio, bu'n rhaid iddyn nhw frwydro i sicrhau pwynt oddi cartref yn yr ail hanner wedi i gamgymeriad trychinebus arwain at gôl i'w rwyd ei hun gan y golwr, Danny Ward.
Y capten Aaron Ramsey a Dan James wnaeth sgorio goliau Cymru mewn gêm hynod gyffrous, sy'n golygu bod y Weriniaeth Tsiec yn parhau'n ail yng Ngrŵp E gyda'r un nifer o bwyntiau â Chymru sy'n aros yn y drydedd safle.
Mae'r golygon nawr yn troi at gêm nos Lun oddi cartref yn Estonia, a gurodd Belarws 2-0 nos Wener.
Roedd yna ddechrau tanllyd yn Stadiwm Sinobo, Prague ac arwyddon cynnar y byddai'r gêm yn cael ei dyfarnu'n llym.
Roedd yna gardyn melyn i Ramsey yn y funud gyntaf am daro chwaraewr gyda'i benelin wrth godi i geisio penio'r bêl. Cafodd Dan James rybudd bron yn syth wedi hynny am gicio'r bêl o'r maes wedi dyfarniad ei fod yn gamsefyll.
Y capten yn sgorio
Fe arbedodd Danny Ward ddau ymgais addawol gan Adam Hlozek a Patrik Schick, cyn ymdrech gwirioneddol cyntaf Cymru ar y gôl - cyfle da i Kieffer Moore o bàs James. Ond efallai bod James wedi aros eiliad yn rhy hir cyn croesi gan roi amser i'r golwr ddod yn agosach ar yr ymosodwr ac o ganlyniad fe darodd Moore y bêl yn syth ato.
Aeth Cymru ar y blaen wedi 35 o funudau - fe gyffyrddodd croesiad Neco Williams ben James ac fe laniodd y bêl wrth draed Ramsey ar ochr chwith y cwrt. Fe gymrodd ei amser, a dau gyffyrddiad i reoli'r bêl i'w wthio'n isel ar ongl eithaf tynn i gornel dde'r rhwyd.
Ond fe barodd y fantais gwta funud. Manteisiodd Jacub Pesek ar hanner arbediad gan Ward a bwlch rhwng tri o amddiffynwyr Cymru i ddod â'r tîm cartref yn gyfartal.
1-1 oedd y sgôr wedi hanner cyntaf campus ac roedd sawl rheswm i'r hyfforddwr Robert Page fod yn falch o berfformiad ei dîm.
Ond cafodd unrhyw foddhad ei chwalu'n deilchion yn dilyn y gôl a roddodd y Weriniaeth Tsiec ar y blaen dair munud wedi'r egwyl.
Pan y pasiodd Ramsey'r bêl yn ôl i'w golwr, roedd yn ymddangos bod Ward heb ragweld y posibilrwydd y byddai'n mynd i'r rhwyd. Ymatebodd yn hamddenol, gan geisio'i rheoli gyda'i draed ond fe gyfeiriodd y bêl dros y llinell.
Fe gollodd Cymru fomentwm am gyfnod, ac roedd y dorf wedi tawelu.
Roedd hynny cyn ymdrechion gan Moore a Ramsey i geisio taro'n ôl - a chyn i Harry Wilson a Connor Roberts ddod i'r maes yn lle Joe Morrell a Chris Gunther.
Fe wnaeth yr eilyddio wahaniaeth. Pàs wych gan Wilson wnaeth gyrraedd James a darodd y bêl ar draws y cwrt o'r dde i gornel chwith y rhwyd i'w gwneud hi'n 2-2 - ei gôl ryngwladol gyntaf oddi cartref.
Cynyddu'r pwysau ar eu gwrthwynebwyr wnaeth Cymru wedi hynny, gydag ymdrechion addawol gan Ramsey, Wilson, Moore a Roberts.
Ond roedd angen gwaith amddiffynnol cryf hefyd, gan gynnwys gan Sorba Thomas a ddaeth i'r maes yn lle Neco Williams ar gyfer ei gêm ryngwladol gyntaf.
Parhau i bwyso tan eiliad olaf yr amser ychwanegol wnaeth Cymru ond 2-2 oedd y sgôr terfynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021