Gallai gyrwyr bws Arriva streicio fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd 400 o yrwyr cwmni bysiau Arriva Cymru yn pleidleisio o ddydd Llun ymlaen ynglŷn â gweithredu diwydiannol yn sgil anfodlonrwydd am gyflog.
Mae'n effeithio ar staff mewn canolfannau ar draws gogledd Cymru - gan gynnwys Bangor, Llandudno, Y Rhyl a Wrecsam.
Dywed undeb Unite bod y bleidlais yn cael ei chynnal wedi i'r cwmni "wrthod cyflwyno codiad cyflog digonol".
Mae'r cyfnod pleidleisio yn dod i ben ar 26 Hydref a dywed cwmni Arriva UK Bus eu bod "wedi'u hymrwymo i ddod i gytundeb" gyda swyddogion undeb.
Dywed yr undeb y gallai'r gweithredu diwydiannol ddechrau yn gynnar fis nesaf os yw gweithwyr Arriva Cymru yn pleidleisio o blaid hynny.
Fe wnaeth aelodau Unite sy'n gweithio i gwmni Stagecoach yn ne Cymru bleidleisio i streicio oherwydd amodau gwaith a chyflog fis diwethaf.
'Gyrwyr wedi dioddef ymosodiadau'
Dywed swyddog rhanbarthol yr undeb, Jo Goodchild, bod gyrwyr wedi bod yn "arwyr go iawn yn ystod y pandemig".
"Er gwaethaf eu holl ymdrechion, mae nifer wedi dioddef ymosodiadau geiriol ac hyd yn oed corfforol gan deithwyr," ychwanegodd.
"Mae cyflogau isel ac amodau gweithio anodd wedi arwain at brinder gyrwyr bysiau ar draws y gogledd ac mae'r cyhoedd yn wynebu toriadau wythnosol pellach.
"Mae'n bryd i Arriva feddwl eto a rhoi cyflog teg ac haeddiannol i'w staff."
Dywedodd llefarydd ar ran Arriva UK Bus: "Wrth i'r wlad wella o effeithiau Covid a dechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau y gwasanaeth gorau posib i'n cwsmeriaid.
"Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at unrhyw ymddygiad gwrth-gymdeithasol sydd wedi'i anelu at ein gyrwyr neu deithwyr.
"Mae sgriniau pwrpasol wedi'u gosod ar ein bysiau a chamerâu cylch cyfyng y tu mewn a thu allan gydag unrhyw luniau yn cael eu lawrlwytho i'r heddlu os oes angen eu help gydag ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021