Pwyso am amserlen ar wella gwasanaethau bysiau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
safle bws, TreharrisFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwleidyddion eisiau amserlen gan Lywodraeth Cymru ar ei haddewid i wella gwasanaethau bysiau.

Mae grŵp o Aelodau o'r Senedd o bob plaid yn dweud bod angen gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn y dyfodol yn ateb gofynion cymunedau ar draws Cymru, a hefyd yn effeithio llai ar newid hinsawdd.

Bydd aelodau yn pwyso am fwy o fanylion mewn dadl ym Mae Caerdydd brynhawn Mercher.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwasanaeth bysiau yn flaenoriaeth a bydd cynllun yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Ann Jones yn byw yn Llanddewi Brefi ac yn gadeirydd cenedlaethol Sefydliad y Merched.

Mae'r mudiad wedi cyhoeddi arolwg yn ddiweddar ar y mater lle maen nhw'n galw am fwy o wasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig a mwy o integreiddio gyda gwasanaethau trafnidiaeth eraill.

"Mae galw am newidiadau mawr yn y gwasanaeth bysiau ac roedd ein adroddiad ni yn dangos yn eitha' clir bod y toriadau sydd wedi bod - naill ai achos y pandemig neu achos y cyllid - wedi cael ymateb mawr... yn enwedig pobl cefn gwlad," meddai Ms Jones wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Roedd 72% wedi dweud bod y toriadau i'r gwasanaeth bysus yn 'neud nhw'n fwy tebygol o ddefnyddio car.

"Ond mae 80% o bobl sydd yn defnyddio bysus ddim yn berchen ar gar."

"Fi wedi gweld bod y bysus sydd yn rhedeg ddim yn rhedeg gyda nifer fawr arnyn nhw ar hyn o bryd, achos mae cryn ofn ar bobl i fod ar drafnidiaeth gyhoeddus achos sgil effaith y pandemig a bydd angen ymgyrch fawr i gael pobl 'nôl i ddefnyddio y bysus.

"Ond heb bod gyda chi y gwasanaeth dy' chi ddim yn mynd i gael pobl 'nôl ar y bysus.

"Bydd rhaid buddsoddi yn y gwasanaeth a gwneud siŵr bod unrhyw gyllid sydd yn dod i'r awdurdodau yn cael ei neilltuo ar gyfer hyn ac i gofio bod cyfran deilwng yn mynd i gefn gwlad."

'Rhoi rheolaeth yn ôl i bobl'

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd, Huw Irranca-Davies, mai teithio ar fws oedd yr unig opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus i'r mwyafrif o bobl yn ei etholaeth yn Ogwr, am nad oes gan "dri chwarter" unrhyw reilffordd.

Mae wedi cychwyn dadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i "roi hwb" i'w chynigion i newid rheoleiddio gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

"Rwyf am weld amserlen gyflym i fwrw ymlaen â hyn a rhoi rheolaeth yn ôl i bobl dros eu gwasanaethau bysiau," meddai Mr Irranca-Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Huw Irranca-Davies, sy'n AS Llafur ei hun, yn codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru ddydd Mercher

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo deddfwriaeth i ddad-wneud diwygiadau a gyflwynwyd yn yr 1980au a breifateiddiodd y ddarpariaeth bysiau y tu allan i Lundain, a dileu gallu awdurdodau lleol i redeg eu gwasanaethau eu hunain.

Ers hynny, mae llawer o'r llwybrau llai proffidiol wedi colli eu gwasanaethau.

Mae gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn rhan allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i nod yw cynhyrchu cynllun i edrych ar bob agwedd ar ddarparu gwasanaethau bysiau erbyn diwedd y flwyddyn.

Mewn datganiad, dywedodd: "Bydd y cynllun bysiau yn cael ei ategu gan Bapur Gwyn, yn nodi ar gyfer ymgynghoriad ein cynigion i gyflwyno bil bws.

"Bydd hyn yn caniatáu inni gael yr hyblygrwydd i sicrhau newid mewn meysydd lle mae'r farchnad wedi methu ac mae angen ymyrraeth bellach gan y llywodraeth."