Cyfres yr Hydref: Young a Tshiunza yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Thomas YoungFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Gyda nifer o flaenasgellwyr eraill wedi anafu, mae disgwyl i Young gael ei gyfle yn y gemau fis Tachwedd

Mae'r blaenasgellwr Thomas Young wedi ei alw yn ôl i garfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref, wedi iddo gyhoeddi y bydd yn arwyddo i Rygbi Caerdydd ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd Ellis Jenkins, Gareth Anscombe a Rhys Priestland hefyd yn dychwelyd yn dilyn anafiadau, tra bod y clo 19 oed Caerwysg, Christ Tshiunza yn cael ei gynnwys am y tro cyntaf.

Bydd chwaraewyr fel Justin Tipuric, George North, Dan Lydiate, Leigh Halfpenny a Josh Navidi ddim ar gael ar gyfer y gemau yn erbyn Seland Newydd, De Affrica, Ffiji ac Awstralia.

Fydd y gemau ddim yn cael eu darlledu'n fyw ar S4C eleni fel maen nhw wedi bod yn y gorffennol - rhywbeth sydd yn "gam yn ôl" yn ôl prif weithredwr y sianel.

Eithriad i'r rheol

Mae Young wedi cael caniatâd arbennig gan Undeb Rygbi Cymru i fod yng ngharfan Wayne Pivac ar gyfer y gemau, er y bydd yn aros gyda Wasps tan ddiwedd y tymor.

Hyd yma mae gan fab hyfforddwr Caerdydd, Dai Young, dri chap dros Gymru rhwng 2017 a 2019.

Ond wedi iddo arwyddo estyniad i'w gytundeb yn Wasps yn 2020, nid oedd yn gymwys i gynrychioli ei wlad bellach oherwydd y rheol sy'n dweud fod yn rhaid chwarae dros un o ranbarthau Cymru oni bai fod ganddyn nhw dros 60 cap yn barod.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Christ Tshiunza yw un o'r enwau newydd - ond ni fydd ar gael i herio Seland Newydd, fel eraill sy'n chwarae i glybiau yn Lloegr

Un eithriad sydd erioed wedi bod i'r rheol honno - pan wnaeth y mewnwr Rhys Webb gyhoeddiad tebyg yn 2020 ei fod am adael Toulon a dychwelyd i'r Gweilch.

Fydd y chwaraewyr yn y garfan sydd yn chwarae i glybiau yn Lloegr ddim ar gael fodd bynnag ar gyfer yr ornest gyntaf yn erbyn Seland Newydd ar 30 Hydref fodd bynnag.

Mae hynny oherwydd fod y gêm yn disgyn y tu allan i ffenestr ryngwladol swyddogol World Rugby, ac felly does dim rhaid i glybiau Lloegr ryddhau eu chwaraewyr Cymreig.

S4C yn anhapus

Yn y cyfamser, mae prif weithredwr S4C wedi dweud fod y cytundeb darlledu gydag Amazon Prime ar gyfer gemau Cyfres yr Hydref yn "gam yn ôl".

Dim ond ar Amazon Prime y bydd y gemau'n cael eu dangos eleni, yn hytrach nag ar S4C hefyd fel y llynedd, gyda'r sianel Gymraeg yn cael yr hawl i ddangos uchafbwyntiau estynedig.

"Fe allen ni ddadlau bod hwn yn un o'r trysorau yng Nghymru, nawr fe fydd yn rhaid i bobl dalu i wylio Cymru yn chwarae gemau rhyngwladol dros yr hydref," meddai Mr Evans wrth roi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Senedd.

"Mae chwaraeon yn dod â llawer o wylwyr i'r sianel. Mae'n gyfle i ni hysbysebu cynnwys S4C i gynulleidfa sydd ddim fel arfer yn dod i gysylltiad â'r cynnwys yna.

"Rydyn ni'n hyrwyddo rhaglenni i blant a dysgwyr i'r bobl rheiny sydd yn dod i gysylltiad â'r sianel drwy chwaraeon."

Ychwanegodd: "Dydy S4C ddim yn croesawu beth sydd wedi digwydd. Rydyn ni'n croesawu'r ffaith y bydd gennym ni rywfaint o uchafbwyntiau, tua awr o bosib, ond fe fyddai'n well gennym ni gael chwaraeon byw."

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Wyn Jones (Scarlets), Rhodri Jones (Gweilch), Rhys Carre (Caerdydd), Ken Owens (Scarlets), Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Dillon Lewis (Caerdydd), WillGriff John (Scarlets), Tomas Francis (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Adam Beard (Gweilch), Will Rowlands (Dreigiau), Ben Carter (Dreigiau), Seb Davies (Caerdydd), Christ Tshiunza (Caerwysg), Ross Moriarty (Dreigiau), Thomas Young (Wasps), Taine Basham (Dreigiau), Ellis Jenkins (Caerdydd), Aaron Wainwright (Dreigiau), Taulupe Faletau (Caerfaddon).

Olwyr: Tomos Williams (Caerdydd), Gareth Davies (Scarlets), Kieran Hardy (Scarlets), Gareth Anscombe (Gweilch), Rhys Priestland (Caerdydd), Dan Biggar (Northampton), Callum Sheedy (Bryste), Johnny Williams (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Nick Tompkins (Saracens), Willis Halaholo (Caerdydd), Ben Thomas (Caerdydd), Josh Adams (Caerdydd), Owen Lane (Caerdydd), Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Johnny McNicholl (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).

Pynciau cysylltiedig