Oedi cyn penderfynu ar gymwysterau TGAU Cymraeg o 2025

  • Cyhoeddwyd
Cardiau TGAU

Fe fydd oedi cyn penderfynu pa gymwysterau TGAU Cymraeg fydd ar gael yn y dyfodol.

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer y pynciau fydd yn cael eu cynnig o 2025.

Y bwriad yw eu bod yn gweddu i'r cwricwlwm newydd sy'n gael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi nesaf.

Ond dywedodd y rheoleiddiwr bod angen trafod "maes sensitif" y Gymraeg ymhellach.

Dywed Cymwysterau Cymru y byddai'r "genhedlaeth nesaf o gymwysterau TGAU" yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer "bywyd, dysgu a gwaith".

Uno rhai cymwysterau

Fel rhan o'r newidiadau bydd Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cael eu huno i greu un TGAU, a bydd un cymhwyster hefyd yn cael ei greu o'r ddau TGAU Mathemateg.

Roedd bwriad hefyd i uno Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ond mae trefniadau ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi bod yn ddadleuol iawn, ac mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu parhau i edrych ar y pwnc yn ei gyfanrwydd.

Bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi yn Ionawr 2022.

Dywedodd y corff y byddai'n trafod ymhellach er mwyn "meithrin mwy o gonsensws ynghylch unrhyw benderfyniadau rydyn ni'n cymryd yn y maes sensitif hwn, sydd hefyd yn flaenoriaeth uchel".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwricwlwm newydd Cymru yn dechrau cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd a blwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd o fis Medi 2022, er bod hyblygrwydd i ysgolion uwchradd oedi blwyddyn oherwydd effaith y pandemig ar y paratoi.

Mae'n sefydlu chwe Maes Dysgu a Phrofiad eang, gan symud i ffwrdd o bynciau penodol.

Fe fydd y pynciau TGAU newydd o 2025 yn cynnwys:

  • Un TGAU Saesneg yn hytrach na Iaith a Llenyddiaeth ar wahân;

  • Un TGAU Mathemateg a Rhifedd;

  • Dim TGAU Cemeg, Bioleg a Ffiseg ar wahân ond uno mewn cymhwyster Gwyddoniaeth;

  • TGAU newydd sbon mewn astudiaethau cymdeithasol, ffilm a chyfryngau digidol a pheirianneg a gweithgynhyrchu; a

  • Bydd 'na olwg pellach hefyd ar y Fagloriaeth.

Nawr mae'r pynciau wedi'u cyhoeddi, bydd gwaith yn mynd rhagddi ynglŷn â beth yn union sy'n cael ei ddysgu a sut y bydd disgyblion yn cael eu hasesu.

Fe fydd hynny'n cynnwys edrych ar faint o bwyslais ddylai fod ar arholiadau, ac a oes yna fwy o rôl i asesiadau digidol.

Mae penderfyniad i gadw'r enw TGAU eisoes wedi'i wneud, ond dywedodd Cymwysterau Cymru bod yna bosibilrwydd y gallen nhw ail-edrych ar hynny pe bai angen.

Angen am 'seibiant'

Mae Undeb Addysg Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd "sgwrs genedlaethol" am gymwysterau, gan ddweud eu bod wedi galw am drafodaeth ers tro i sicrhau fod cymwysterau yn gweithio'n dda ar gyfer dysgwyr sy'n dilyn y cwricwlwm newydd.

Ond mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud na fyddai'n bosib dewis "adeg mwy anaddas" i ofyn i staff ysgolion gymryd rhan yn y fath drafodaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gymdeithas yng Nghymru Eithne Hughes fod ysgolion yn ceisio ymdopi gyda lefelau digynsail o absenoldeb staff oherwydd Covid.

Lleisiodd hi bryder am gyfuno TGAU iaith a llenyddiaeth Saesneg, gan ddweud fod angen "amser am seibiant".

"Mae ysgolion yn gweithio o dan bwysau difrifol ar hyn o bryd - mae hyn yn bygwth tanseilio'r brosiect gyfan, ac mae'n amlwg mai ceisio brysio trwyddi hi nawr yw'r peth anghywir i'w wneud."

Pynciau cysylltiedig