Perchennog CPD Dinas Bangor yn taro'n ôl dros ddiffyg tâl

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Stadiwm Dinas Bangor

Wedi i gwestiynau gael eu codi am sefyllfa ariannol clwb pêl-droed Cymreig, mae'r perchennog wedi beirniadu chwaraewyr a staff am fynd i gyfraith ar ôl peidio eu talu.

Bythefnos yn ôl, daeth pryderon i'r amlwg yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C i glwb pêl-droed Dinas Bangor.

Daeth i'r amlwg bod dyledion gan y clwb, a bod clwb arall yn Yr Eidal oedd hefyd dan arweinyddiaeth eu llywydd, Domenico Serafino, wedi mynd i'r wal wedi i chwaraewyr a staff yno beidio a chael eu talu.

Mewn ymateb, dywedodd Mr Serafino mewn datganiad bod "trefn ar bethau" o fewn y clwb.

'Hawlio arian heb chwarae pêl-droed'

Bellach mae wedi dod yn glir bod CPD Dinas Bangor wedi cael gorchymyn i wrandawiad disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddarach y mis hwn "dros anghydfod yn ymwneud â pheidio talu cyflogau chwaraewyr a swyddogion".

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal ar 25 Hydref.

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Mr Serafino: "Mae rhai taliadau heb eu gwneud, ac mae chwaraewyr a staff hyfforddi wedi penderfynu mynd i gyfraith i hawlio pob ceiniog am dymor lle na chwaraeon nhw bêl-droed!"

Mae BBC Cymru yn deall bod sawl chwaraewr heb gael eu talu o gwbl dros y misoedd diwethaf, tra bod eraill ond wedi derbyn rhan o'u cyflog.

Doedd y rheolwr, Hugo Colace, ddim yn bresennol yng ngêm y clwb y penwythnos diwethaf, gyda dyn arall, Methurin Ovambe, yn gyfrifol am y tîm.

Dros yr wythnosau diwethaf hefyd, mae llun wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos chwaraewyr y clwb a Hugo Colace yn dal baner yn dangos y geiriau "hyd yn oed heb gyflog, dyw ein hysbryd heb ei dorri" arno.

Darganfyddodd ymchwiliad bod gan y clwb bum dyfarniad yn y llys sirol yn eu herbyn am gyfanswm o £26,127.

Dywedodd Mr Serafino ei fod "eisoes wedi talu 90% o ddyledion hanesyddol" a'i fod yn "ail-negydu'r dyledion sydd yn weddill".

Roedd yn beio'r pandemig a'r perchnogion blaenorol am iddo etifeddu "sefyllfa gymhleth iawn".

Pan ofynnwyd pam nad oedd cyfrifon y clwb wedi eu cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau, fe ddywedodd: "Mae'r cyfrifon presennol yn nwylo fy nghyfrifwyr ac mae popeth yn ei le."

Pythefnos yn ddiweddarach, mae Tŷ'r Cwmnïau yn dangos bod y cyfrifon yn orddyledus.

Clwb yn cwtogi ei chyllideb

Wrth ymateb i'r pryderon diweddaraf, roedd Mr Serafino am bwysleisio effaith y pandemig, gan ddweud bod y clwb wedi parhau i dalu chwaraewyr drwy gydol y cyfnod, yn wahanol i glybiau eraill.

"Heb beryglu cyfrinachedd, ry'n ni'n talu £2,000 i £3,500 y mis i'r chwaraewyr proffesiynol yma", meddai.

"Y rhan fwyaf o fisoedd, mae'r taliadau yma wedi cael eu cwblhau er bod nifer o glybiau ar draws y byd wedi gweld chwaraewyr yn cytuno i gwtogi cyflogau oherwydd y crisis, nid dyna sydd wedi digwydd ym Mangor yn anffodus.

"Mae'r clwb wrthi yn cwtogi ei chyllideb o ran chwaraewyr ac hyfforddwyr, ac ry'n ni'n hyderus y byddwn ni'n dod i setliad ariannol gyda staff i ddiddymu cytundebau cyn hir.

"Ar hyd yr amser, mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi bod yn agored gyda'r gymdeithas bêl-droed, gan esbonio'r sefyllfa. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny."

Pynciau cysylltiedig