Annibyniaeth i gael ei 'ystyried' gan gomisiwn
- Cyhoeddwyd
Mae annibyniaeth i Gymru yn un o'r opsiynau fydd o dan ystyriaeth gan gomisiwn sydd wedi'i sefydlu i edrych ar berthynas Cymru gyda gweddill y DU yn y dyfodol.
Bydd y corff newydd yn cael ei arwain gan Yr Athro Laura McAllister a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams.
Dywedodd yr Athro McAllister fod "rhaid i bob opsiwn fod ar y bwrdd" i'w trafod.
Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod siarad am annibyniaeth yn wastraff o adnoddau.
Nid yw'r ddau gyd-gadeirydd o'r Comisiwn Cyfansoddiad Annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn credu fod trefniant cyfansoddiadol Cymru ar hyn o bryd yn gynaliadwy.
Mae'r comisiwn yn debygol o edrych ar y system bresennol o bwerau yng Nghaerdydd a Llundain, ac ystyried sut y gallai hyn newid. Eu bwriad yw siarad gyda phobol ar draws y wlad am eu syniadau.
Roedd Llafur Cymru, sy'n cefnogi cadw Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig, wedi addo i sefydlu'r comisiwn yn eu maniffesto cyn etholiadau'r Senedd yn gynharach eleni.
Dywedodd Plaid Cymru y byddai'r comisiwn yn rhoi'r cyfle i gynnal "y sgwrs genedlaethol fwyaf eang am ddyfodol Cymru".
Sut mae Cymru'n gweithio nawr?
Ar hyn o bryd mae nifer o feysydd pwysig fel iechyd, addysg a llywodraeth leol yn cael eu rhedeg o Gaerdydd, gyda chyfreithiau yn y meysydd yna'n cael eu creu yn y Senedd.
Mae popeth arall, fel y lluoedd arfog, darlledu a'r system gyfreithiol, yn cael ei reoli yn San Steffan gan lywodraeth y DU. Mae'n system debyg i beth sydd yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae mwy o feysydd wedi'u datganoli.
Ond mae pryderon am ddyfodol y DU wedi arwain rhai, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford, i alw am ailstrwythuro radical o'r DU, gyda'r cenhedloedd, fel Cymru, yn cael bod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'u materion eu hunain.
Dadl Mr Drakeford yw y byddai'r undeb yn gryfach pe bai mwy yn cael ei benderfynu yn lleol, ac os byddai cenhedloedd y DU yn rhan o undeb wirfoddol.
Cafodd hynny ei adlewyrchu ym maniffesto Llafur Cymru, a oedd yn mynegi cefnogaeth am "ffederaliaeth pellgyrhaeddol" o fewn y DU.
Ond dywedodd yr Athro Laura McAllister y bydd y comisiwn newydd yn ystyried ystod eang o ddatrysiadau posib.
'Chwerthinllyd i beidio ystyried annibyniaeth'
Wrth gyhoeddi sefydlu'r comisiwn dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n datblygu "barn am ddiwygio strwythurau cyfansoddiadol y DU yn sylfaenol... strwythurau y mae Cymru'n parhau i fod yn rhan greiddiol ohonynt".
Ond dywedodd yr Athro McAllister y byddai'r comisiwn yn trafod annibyniaeth.
"Rwy'n credu fod popeth i fod ar y bwrdd i drafod... mae'n hynny'n gwbl briodol. Felly fe fyddai'n chwerthinllyd i ddiystyru unrhyw opsiynau ar hyn o bryd," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod yn glir am iaith. Gall annibyniaeth olygu nifer o bethau gwahanol gan ddibynnu ar gyd-destunau gwahanol."
Gwadodd yr Athro McAllister bod diwygio cyfansoddiadol yn tynnu sylw oddi ar faterion ymarferol fel gwella o'r pandemig, neu newid hinsawdd.
Ychwanegodd: "Fyddwn ni ddim yn tynnu unrhyw sylw o hynny oherwydd ry'n ni'n gomisiwn annibynnol."
Dywedodd Dr Rowan Williams, a fu'n bennaeth ar Eglwys Lloegr o 2002 tan ei ymddeoliad yn 2012, y byddai'r comisiwn yn ceisio ateb cwestiynau pwysig am sut i "wneud democratiaeth yn addas i'w bwrpas".
Dywedodd: "Ar hyn o bryd mae gennym fodel pedair cenedl sydd yn eithaf anghytbwys.
"Mae llywodraeth ddatganoledig yn rhywbeth sydd, i ryw raddau, wedi cael ei daclo o fewn system hynod o ganolog.
"Mae'n bryd i ni ystyried yn fanwl beth fyddai'r goblygiadau o gael pethau'n gweithio'n well i bobl Cymru ac i bobl y DU."
Ychwanegodd Dr Williams ei fod am weld pobl ar lawr gwlad yng Nghymru yn rhan o'r broses.
Ychwanegodd yr Athro McAllister: "Fydd hi ddim yn hawdd, ond fe fydd Rowan a minnau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn gwrando ar bob cymuned a phob unigolyn sydd am leisio barn am sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu."
Llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad yw Rhys ab Owen. Dywedodd: "Mae comisiwn cyfansoddiadol yn gyfle i gynnal y sgwrs genedlaethol fwyaf eang erioed am ddyfodol Cymru yn hanes datganoli.
"Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at drafodaeth adeiladol gyda'r comisiwn a'i waith, gan wneud y mwyaf o bob cyfle a ddaw i ddadlau'r achos dros annibyniaeth, ac i ddatgan y bydd ein dyfodol yn well pan fydd penderfyniadau am ein dyfodol yn ein dwylo ein hunain."
Barn hollol wahanol oedd gan y Ceidwadwr Darren Millar. Dywedodd: "Fe wnaeth pobl Cymru wrthod annibyniaeth yn llwyr yn etholiadau'r Senedd yn ddiweddar, ac mae gweld Llywodraeth Cymru am wastraffu'i hamser ac adnoddau yn trafod y pwnc y tu hwnt i mi.
"Yn hytrach na blaenoriaethu trafodaethau am annibyniaeth a newid cyfansoddiadol, dylai Llywodraeth Lafur Cymru ddefnyddio'r pwerau sydd eisoes ganddi i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru."
Dadansoddiad Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Felicity Evans
Mae dadlau wedi bod am y fframwaith cyfreithiol newydd sydd ei angen yn sgil Brexit, gan arwain at y cwestiwn o sut y dylai llywodraethau gwahanol y DU ymdrin â'i gilydd.
Mae'r frwydr am rym rhwng y llywodraethau yna - o bob lliw gwleidyddol - y tu ôl i nifer o benderfyniadau am bolisi a gwariant yr ydym yn clywed amdanyn nhw bron yn ddyddiol.
Os yw'r ystod o faterion trafod i'r comisiwn newydd yn mynd o'r status quo i annibyniaeth lawn i Gymru, y tebygrwydd yw y bydd y canlyniad rhywle yng nghanol y sbectrwm yna.
Ond cyn i unrhyw newid cyfansoddiadol ddod o ganlyniad i hyn, byddai'n rhaid i lywodraeth y DU ei gefnogi.
Ar hyn o bryd, does dim golwg o hynny'n digwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019