Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Aberdâr

  • Cyhoeddwyd
Colliers ArmsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad tu allan i'r Colliers Arms yn ardal Penywaun yn oriau mân fore Sul

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn arall farw yn dilyn ymosodiad yn Aberdâr yn yr oriau mân fore Sul.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad tu allan i'r Colliers Arms yn ardal Penywaun toc wedi 01:00.

Fe gafodd dyn lleol 21 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r digwyddiad, ble bu farw yn ddiweddarach.

Mae dyn 24 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig