Bragdy o Gymru i gael ei bweru gan hydrogen

  • Cyhoeddwyd
Budweiser's Magor brewery siteFfynhonnell y llun, Budweiser Brewing Group UK&I
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd bragdy Magwyr yn 1979

Bragdy o Gymru fydd y cyntaf yn y DU i gael ei bweru gan hydrogen.

Mae cwmni Budweiser wedi cyhoeddi y bydd y gwaith cynhyrchu ym Mragdy Magwyr yn Sir Fynwy yn ddibynnol ar hydrogen o 2024 ymlaen - mae yna fwriad hefyd i gael lorïau a cherbydau nwyddau trwm i ddefnyddio hydrogen fel tanwydd.

Dywed Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths y gallai'r buddsoddiad "greu swyddi newydd a chyfleon cyffrous".

Mae disgwyl i brosiect cwmni Budweiser Brewing Group (BBG) fod yn weithredol erbyn 2024 a dyma'r tro cyntaf i fragu ar raddfa eang fod yn ddibynnol ar hydrogen.

Dywed y cwmni y bydd defnyddio technoleg hydrogen yn helpu'r ymdrechion i fod yn garbon niwtral.

Mae'r cwmni eisoes yn defnyddio trydan adnewyddadwy yn y bragdy ym Magwyr - tanwydd sy'n cael ei gynhyrchu o ffermydd solar a'u tyrbin gwynt ar y safle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith cynhyrchion Budweiser Brewing Group mae Budweiser, Stella Artois, Corona a Bud Light

Dywedodd Mauricio Coindreau, pennaeth cynaladwyedd BBG bod gan ddatrysiadau ynni fel hydrogen "allu anferth" i dorri ôl troed carbon y cwmni yn y DU.

Bydd y cwmni yn cydweithio â chwmni ynni Protium er mwyn gwireddu'r cynlluniau.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths, y bydd y prosiect yn "bwysig" i'r ymdrechion ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Pynciau cysylltiedig