Gwlypdiroedd yn 'amddiffyniad natur rhag llifogydd'
- Cyhoeddwyd
Mae gwlypdiroedd arfordirol Cymru yn rhoi mwy o ddiogelwch rhag llifogydd na'r hyn a feddyliwyd yn flaenorol, mae ymchwilwyr wedi darganfod.
Defnyddiodd tîm dan arweiniad Prifysgol Abertawe fodelau hydrodynamig o wyth aber yng Nghymru i efelychu stormydd o wahanol gryfderau a modelu'r difrod y byddan nhw'n debygol o'i achosi.
Gwelodd y tîm fod gwlypdiroedd aber yn lleihau llifogydd ar draws pob un o'r wyth ardal.
Fe allai hyn arbed hyd at £27m i bob aber yn ystod storm fawr.
Daeth y tîm i'r casgliad y gallai gwlypdiroedd aber ostwng lefelau dŵr hyd at 2m (6 troedfedd 6 modfedd) mewn ardaloedd i fyny'r afon.
Dywedodd Dr Tom Fairchild o Brifysgol Abertawe eu bod wedi canfod fod y llystyfiant yn "sugno'r egni allan o donnau wrth iddynt basio".
"Ond hefyd mae'r ffrithiant y mae'n ei greu yn arafu llif y dŵr i fyny'r aberoedd ac i mewn i afonydd," meddai.
"Mae hyn yn hanfodol oherwydd yn ystod storm, mae dŵr llifogydd yn dod i lawr yr afon o darddiad yr afon, ac yn cwrdd ag ymchwydd llanw a storm o'r môr."
Llundain, Efrog Newydd a Tokyo
Dangosodd yr astudiaeth fod trefi Cymru fel Llanelli, Castell-nedd a Chaerfyrddin i gyd yn debygol o fod wedi elwa o effeithiau amddiffynnol corsydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond yn fyd-eang mae 22 o'r 32 dinas fwyaf yn y byd - gan gynnwys Llundain, Efrog Newydd a Tokyo - wedi'u hadeiladu ar dir isel o amgylch aberoedd, sy'n eu rhoi mewn perygl cynyddol o lifogydd mewn hinsawdd sy'n cynhesu.
Yn ôl Dr Fairchild, fe allai amddiffynfeydd llifogydd o waith dyn fod yn gwaethygu'r sefyllfa.
"Gyda phobl yn eisiau byw yn agos at y lan, gall argloddiau ac amddiffynfeydd llifogydd peirianyddol caled eraill arwain at ein hamddiffynfeydd naturiol yn marw, ac ar yr un pryd gallant arllwys ymchwydd afon ymhellach i fyny'r afon.
"Felly er eu bod yn amddiffyn eiddo ar hyd yr arfordiroedd, gallant achosi mwy o lifogydd mewndirol, neu o leiaf wneud llai i amddiffyn ardaloedd mewndirol nag y byddai llystyfiant gwlypdir naturiol," dywedodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020