Newid hinsawdd: Diffyg gweithredu yn 'corddi'r' Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae sylwadau a wnaed gan y Frenhines yn awgrymu ei bod yn flin gydag agweddau "dweud yn lle gwneud" rhai pobl tuag at newid hinsawdd.
Mae adroddiadau ei bod wedi gwneud y sylw tra'r oedd yng Nghaerdydd ddydd Iau i agor chweched sesiwn Y Senedd.
Mae disgwyl iddi fod yn bresennol yng nghynhadledd COP26 ar newid hinsawdd, sydd i'w chynnal fis nesaf, a dywedodd nad oedd hi'n gwybod pwy oedd yn dod i'r digwyddiad.
Mae'r Tywysog Charles a'r Tywysog William hefyd wedi siarad am eu pryderon am newid hinsawdd yr wythnos hon.
Clywed sylwadau ar gamera
Bydd arweinwyr gwladwriaethau yn cwrdd yn Glasgow rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd i drafod mesurau i geisio arafu newid hinsawdd a chynhesu byd-eang.
Mae adroddiadau na fydd Arlywydd Tseina, Xi Jinping, yn dod i'r gynhadledd, er bod disgwyl i swyddogion ei lywodraeth ei gynrychioli yno.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU mai mater i wledydd unigol yw i gadarnhau a fyddan nhw'n mynychu'r gynhadledd.
Cafodd clipiau fideo o un o sgyrsiau'r Frenhines yn ystod agoriad y Senedd eu clywed ar gamera llif byw y digwyddiad, yn ôl papur newydd y Daily Mail.
Roedd y Frenhines yn siarad gyda'r Llywydd, Elin Jones, a Duges Cernyw, ar y pryd.
Nid oedd posib clywed rhannau o'r sgwrs ond mae'n ymddangos bod y Frenhines yn dweud: "Rwyf wedi bod yn clywed popeth am COP... dwi'n dal ddim yn gwybod pwy sy'n dod."
Mewn clip arall mae'n dweud "rydym ond yn gwybod am bobl sydd ddim yn dod", cyn ychwanegu: "Mae'n ddigon i wylltio rhywun pan maen nhw'n dweud yn lle gwneud".
Mae Elin Jones i weld yn crybwyll y Tywysog William yn ei hateb i'r Frenhines, gan sôn ei bod wedi ei weld mewn cyfweliad ar y teledu y bore hwnnw lle'r oedd yn dweud nad oedd pwynt i bobl fynd i'r gofod fel twristiaid - "roedd angen i ni achub y byd".
Mewn cyfweliad ar raglen Newscast y BBC ddydd Iau ychwanegodd y tywysog y dylai'r gynhadledd COP26 osgoi "siarad clyfar, geiriau clyfar heb ddigon o weithredu", a'i bod yn angenrheidiol i arweinwyr y gwledydd "gyfathrebu'n glir iawn a gonest iawn beth yw'r problemau a beth fydd yr atebion".
Mewn cyfweliad gyda golygydd hinsawdd y BBC, Justin Rowlatt, dywedodd y Tywysog Charles ei fod yn poeni mai "dim ond siarad" fyddai'r arweinwyr.
"Y broblem yw sicrhau gweithredu ar lawr gwlad," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021