Ffermwr, 78, wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan stof Aga
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest yn Rhuthun bod ffermwr 78 oed wedi marw tra'n symud stof Aga oedd yn pwyso 470 cilogram.
Roedd Anthony Rees yn symud yr Aga yn ei gartref yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun, pan gwympodd y stof ar ei ben a'i wasgu fis Mehefin diwethaf.
Dywedodd ei wraig Elizabeth Rees ei bod wedi gofyn iddo aros nes bod eu mab yn cyrraedd ond roedd "eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith er mwyn gorffen".
Dywedodd ei bod hi'n bosib bod y feddyginiaeth roedd yn cymryd at ganser wedi effeithio ar yr hyn ddigwyddodd.
"Mae'n bosib bod y feddyginiaeth wedi achosi'r ddamwain... roedd ei ymddygiad yn wahanol i'r arfer," meddai Mrs Rees.
Cafodd Mr Rees ddiagnosis o myeloma ymledol, ffurf o ganser y gwaed, fis Ebrill y llynedd. Roedd wedi dechrau ffermio wedi iddo ymddeol o'i swydd fel rheolwr ar y môr.
Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y cwest fe wnaeth Mrs Rees ddisgrifio sut oedd ei gŵr wedi adeiladu troli pedair olwyn i symud y stof Aga.
Roedd hi wedi gofyn iddo aros nes bod eu mab Daniel yn dod adref i helpu ond fe symudodd y stof ar ei ben ei hun.
"Doeddwn i ddim yn deall pam bod o mor awyddus i fwrw ymlaen â'r gwaith," meddai Mrs Rees.
Wedi i'r stof gwympo ar ei ben roedd Mr Rees wedi'i gaethiwo a roedd hi'n amhosib i'w wraig ei ryddhau.
Wedi deialu 999 fe alwodd ei chymydog, David Heller, a lwyddodd i symud y stof ac yna fe symudodd hi ei gŵr.
Fe wnaeth parafeddygon a meddygon geisio ei adfywio ond roedd wedi marw. Nodwyd mai anafiadau i'w frest oedd achos ei farwolaeth.
Cofnododd y crwner ei fod wedi marw drwy anffawd.