Gwrthwynebiad cryf i gynllun tai newydd yn Llanfairpwll
- Cyhoeddwyd
Mae yna wrthwynebiad mawr ar stad dai Y Garnedd yn Llanfairpwll ym Môn i godi 27 o dai fforddiadwy ar dir glas ger y stad.
Yn ôl gwrthwynebwyr mae'r tir a'r cynllun yn hollol anaddas ac maen nhw'n poeni y bydd yna broblemau traffig wrth i nifer y tai ddyblu.
Ond yn ôl y datblygwyr DU Construction o Gaergybi mae angen mawr am y tai ychwanegol.
Fe fyddai'r cartrefi yn cael eu codi ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn - dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod "gwir angen" tai fforddiadwy ar yr ynys.
Ond mae gan trigolion lleol sawl pryder ynglŷn a'r cynllun. Dywedodd yr Athro Alan Sior nad problemau traffig yn unig fyddai'n dod o ehangu'r stad.
'Mae problemau traffig yn dod trwy ddyblu'r niferoedd o dai sydd o gwmpas," meddai.
"Ond mae'r tir ei hunan yn debyg o gael llifogydd ac yn y blaen, a mi fydd 'na broblemau enfawr yn tarddu o hynny."
Ychwanegodd Gwyn Thomas bod cynllun y cyngor yn hollol anaddas.
"Y peth cyntaf, ac sy'n hollol bwysig i'w ddweud, ydi bod y datblygiad neu'r cais arfaethedig yma y tu allan i ffin ddatblygu Llanfairpwll," dywedodd.
"Os y caniateir mi fydd yn gosod cynsail peryg iawn i'r cyngor."
Prif bryder Gwyn Thomas yw'r problemau allai godi wrth i fwy o geir deithio ar hyd strydoedd cul y stad.
"Argument mwyaf sydd gen i ydi cymaint mwy o draffig fydd yn dod ffordd hyn - mae'r gornel 'ma fyny yn fan hyn yn broblem ofnadwy… mae'r lon mor gul.
"Dwni'm pe tase rhywun isio ambiwlans neu fire engine neu rywbeth. Sa'n impossible yn enwedig efo gymaint o geir sydd yn fan hyn rŵan, ac os oes 'na 27 o dai extra yn dod fyny mi fydd 'na fwy o geir o lawer wedyn."
'Annioddefol'
Mae Brenda Roberts yn byw ger y fynedfa i'r cae lle bwriedir codi'r tai, ac mae hi'n poeni'n arw.
'Dwi ddim yn gweld sut gall lorïau mawr basio ffordd hyn a bydd yn rhaid i fi chwilio am rywle arall i barcio fy nghar," meddai.
"Mi fydd y lorïau mawr yn pasio heibio ffenast fy lolfa a bydd y sŵn yn annioddefol a fyddan nhw yn agor y draeniau 'ma.
"Dwi ddim yn gwybod sut ga'i fynediad at fy nhŷ, ac yn fwy na'r cwbl fedrai ddim byw yma tra bod hyn yn mynd ymlaen 'na wedyn… [byddai'n] annioddefol."
Ond mae'r datblygwyr yn mynnu bod y safle arfaethedig yn addas ar gyfer codi tai fforddiadwy.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran DU Construction: "Mae yna 101 ar y Rhestr Tai Teg yn aros i gael tŷ fforddiadwy yn Llanfairpwll, mae'r rhan fwyaf angen tai dwy a thair llofft ac mae nhw i gyd yn bobl lleol."
Ychwanegwyd y dylid datblygu ar y safle ger Y Garnedd oherwydd nad oes yna unrhyw safleoedd addas eraill ar gael i ddatblygu yn Llanfairpwll.
Nodwyd hefyd bod ymchwil yn dangos bod y cae yn addas oherwydd y mynediad a bod yna ddim perygl o lifogydd.
'Dan ni isio cadw hwn yn dir glas'
Ond dydy Medwyn Roberts, un arall o drigolion stad Y Garnedd, ddim yn derbyn mai dyma'r lle iawn i godi tai.
"Mae'r gymuned wedi sicrhau y tir glas fan hyn ers dros 50 mlynedd - does 'na ddim datblygiad wedi bod," meddai.
"Yr unig beth sydd wedi cael ei wneud yma yn yr amser dwi yma ydi y fynwent newydd reit wrth ymyl y lle a chae ffwtbol dros ffin i'r cae yn fan hyn."
"Mae pawb isio cartref - roeddwn i 'run peth pan oeddwn i'n ifanc fy hun - ond ddim ar y cae yma.
"Dan ni isio cadw hwn yn dir glas. Mae'r pentre' yma wedi cael ei lenwi efo tai."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Mae ein Gwasanaeth Tai yn arwain ac yn cydweithio ar amryw o gynlluniau gyda'r bwriad o ddarparu tai fforddiadwy, gydag amrywiaeth o ddeiliadaeth, sydd wir eu hangen ar yr Ynys, ar gyfer trigolion lleol.
"Byddai'r cynllun arfaethedig yma yn un enghraifft o hyn. Ni fyddai'n briodol gwneud unrhyw sylw pellach hyd nes bydd y broses statudol cynllunio wedi ei gwblhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021