Y dramodydd sy'n herio'r portread o anabledd drwy ei waith
- Cyhoeddwyd
"Dyw pobl ddim yn cael siawns teg a dim eu bai nhw ydy fe. Mae'n dod lawr i gynrychiolaeth."
Ers dros flwyddyn a hanner bellach, mae'r dramodydd ifanc Ciaran Fitzgerald wedi bod yn trin a thrafod byd y ddrama yng Nghymru drwy ei bodlediad In Lockdown With.
Yno, mae'n sgwrsio â phobl o sawl agwedd gwahanol yn y maes; yn eu plith, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, Lorne Campbell, a'r actorion profiadol Sharon Morgan, Manon Eames a Richard Elis.
Er ei fod wedi cael blas ar holi'r cwestiynau dros y cyfnod diwethaf yma, mae ei feddwl a'i bin ysgrifennu hefyd wedi bod yn prysur ddod â nifer o ddramâu newydd yn fyw.
Yn ganolog i'w waith mae straeon pobl ag anableddau, rhywbeth sydd wedi dod yn bwysicach fyth iddo yn dilyn y deunaw mis diwethaf: "O'n i jest mo'yn sgwennu am be' o'n i'n gweld yn y cyfryngau, ar y newyddion, ynglŷn â chynrychiolaeth pobl anabl," meddai.
"Mae'r cysyniad yma bod e'n 'iawn' oherwydd mai pobl fregus yw'r unig bobl sy'n dioddef gyda'r coronafeirws, ac felly gall pawb arall gario ymlaen â'u bywydau."
Tu hwnt i'r labeli
I'r dramodydd hwn, mae angen herio'r ffordd y mae anabledd yn cael ei bortreadu er mwyn adlewyrchu'r profiad modern o fod yn berson anabl yn y byd cyfoes:
"Dyw pobl ddim yn cael siawns teg a dim eu bai nhw ydy fe. Mae'n dod lawr i gynrychiolaeth," meddai. "Weithiau ni'n gweld pobl yn cael eu cynrychioli fel bod angen sympathy arnyn nhw neu fel eu bod nhw'n ddewr," esbonia drwy ddatgan ei nod o annog cymdeithas i weld y tu hwnt i'r labeli sydd wedi eu gosod ar unigolion.
Ar lefel bersonol, rhoddwyd sawl label iddo yntau hefyd a hynny o oedran ifanc iawn:
"Pan ges i fy ngeni ges i fy diagnoso gyda celebral palsy a o'dd y doctoriaid wedi dweud pryd o'n i'n fabi, do'n i byth yn mynd i gerdded na siarad na dim byd. Ond y peth pwysig oedd, doedd fy rhieni byth wedi credu hwnna. O'n nhw wedi annog fi i wneud popeth o'n i mo'yn 'neud."
Wedi iddo droi'n ddwy, yn groes i eiriau'r meddygon, dechreuodd Ciaran siarad Saesneg, a phenderfynodd ei rieni i'w anfon i'r ysgol Gymraeg leol, er nad oedden nhw eu hunain yn medru'r iaith.
Yn ôl Ciaran "dyna un o'r pethau gorau wnaethon nhw," gan gyfeirio at y llu o gyfleoedd a dderbyniodd drwy ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystylafera a chyn hynny yn Ysgol Gynradd Rhosafan. "Mae gen i'r gallu nawr i sgwennu yn y ddwy iaith a dwi mo'yn cymryd mantais o hynny," meddai.
Manteisio ar y ddwy iaith
Ac yn wir, mae ei weithiau diweddar yn dangos ei awydd i fynegi profiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg wrth iddo bortreadu cymunedau sydd wedi eu tan-gynrychioli.
Mae ei ddrama Gymraeg diweddar, Cariad Traws Gwlad, yn archwilio'r pellter daearyddol ac emosiynol rhwng dau berson ifanc gydag anableddau corfforol a sut mae'r hyn mae Ciaran yn ei ddisgrifio fel "y gwleidyddiaeth o fod yn anabl" yn effeithio ar eu perthynas.
Pobl ifanc sydd hefyd yn mynd â'i sylw yn ei waith Saesneg, Chasing Rainbows, drama a gomisiynwyd dros yr haf gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe. Gydag un cymeriad o gefndir dosbarth gweithiol a'r llall yn ddosbarth canol, mae e'n portreadu eu cyfeillgarwch annisgwyl drwy arddangos y gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhyngddynt.
Er bod anabledd yn ganolog i'w waith, mae'n pwysleisio ei bod hi'n bwysig nodi mai rhan o'r stori yw hynny hefyd: "I fi, nid y prif beth ddyle fe fod," meddai, ac mae e'n gobeithio y bydd ei gyfres deledu newydd gyda Tiger Aspect Productions sef The Special Ones yn dangos hyn.
"Mae e'n sioe am dîm pêl-droed ar gyfer pobl ag anableddau ond yn bennaf, mae'n sioe gomedi. Nid y bwriad yw dysgu unrhywun am anabledd, ond jest i arsylwi ar y bobl ifanc, a'r cymhlethdodau mae'r holl bobl ifanc yn delio 'da nhw ynglŷn â perthnasau, tyfu lan, addysg, yn ogystal ag anabledd."
Mynediad i'r maes
Er ei fod yn gweithio'n ddiwyd i roi llais i bobl anabl ar amryw lwyfan, mae'n gryf o'r farn bod yn rhaid gwneud mwy y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad i bawb i fyd theatr, nid yn unig o ran profiad y gwyliwr ond o ran hyfforddiant ac addysg hefyd.
Grŵp theatrig i bobl ifanc ag anableddau a daniodd ddiddordeb Ciaran yn y maes cyn iddo ymuno â'r cwmni Mess Up The Mess ddeng mlynedd yn ôl.
Aeth ymlaen i astudio BA mewn sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru gan raddio yn 2019 ac mae yntau'n ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi derbyn ar hyd ei lwybr.
"Ond dwi wedi clywed straeon gan actorion anabl eraill sy' ddim wedi cael profiad da pan mae nhw wedi mynd mewn i hyfforddiant," meddai. "Os nad oes mynediad i hyfforddiant gyda nhw, dydyn nhw ddim yn mynd i raddio a dydyn ni ddim yn mynd i'w weld nhw ar ein llwyfannau ac ar ein sgrins ni.
"Mae'n rhaid i gwmnïau theatr - ond hefyd ysgolion drama a phrifysgolion - weithio gyda'i gilydd i sicrhau mynediad i bob un sydd am hyfforddi a graddio a wedyn mynd mewn i'r diwydiant."
Dros y misoedd nesaf, mae Ciaran yn rhedeg cyfres o weithdai barddoniaeth i blant sydd ag anableddau dwys a chymhleth mewn dwy ysgol arbennig yng Nghymru gyda'r cwmni Touch Trust.
Y gobaith yw y bydd y profiadau creadigol hyn yn creu cyfle iddyn nhw fynegi eu teimladau mewn dull amgen.
I Ciaran, mae clywed lleisiau pawb yn allweddol er mwyn sicrhau cymdeithas decach a mwy cynhwysol ac mae'n argyhoeddedig bod yna fwy sydd yn ein huno ni na sy'n ein gwahanu ni ond weithiau "rhaid i ni wneud y gwaith caled i ddod o hyd iddyn nhw."