Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 31-29 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Lloyd Williams gais a derbyn cerdyn melyn mewn gêm ddifyr

Llwyddodd Caerdydd i drechu'r Dreigiau mewn gêm ddarbi yn y brifddinas er iddyn nhw fynd lawr i 14 dyn.

Aeth y Dreigiau 14-3 ar y blaen gyda cheisiau gan Taylor Davies a Mesake Doge, cyn i geisiau Lloyd Williams a Hallam Amos roi Caerdydd ar y blaen 18-14 ar yr egwyl.

Fe wnaeth cais gosb ymestyn mantais Caerdydd ond anfonwyd Rey Lee-Lo i ffwrdd am dacl uchel ar Sam Davies.

Croesodd Rio Dyer i godi'r gobaith o adfywiad hwyr i'r Dreigiau.

Ond cafodd yr ymwelwyr eu rhwystro gan amddiffyn Caerdydd, sy'n parhau i fod yn ddiguro yn erbyn eu cystadleuwyr lleol ers 2014.

Cafodd y Dreigiau o leiaf y cysur o ddau bwynt bonws yn colli, wrth i Joe Maksymiw sgorio eu pedwerydd cais yn nrama olaf y gêm.

Pynciau cysylltiedig