Dyn o'r Fflint yn pledio'n euog i stelcian cyflwynydd y BBC
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 44 oed o Sir y Fflint wedi pledio'n euog i stelcian cyn-gyflwynydd BBC Breakfast, Louise Minchin, a'i merch trwy yrru sylwadau bygythiol iddynt ar Instagram.
Fe wnaeth Carl Davies o'r Fflint newid ei ble ddydd Mawrth i gyfaddef dau achos.
Yn Llys y Goron Caernarfon fe wnaeth Davies bledio'n euog i achosi pryder neu ofid i Louise a Mia Minchin ym mis Gorffennaf 2020.
Dywedodd y Barnwr Nicola Saffman wrth y llys ei bod yn debygol y bydd Davies yn cael ei ddedfrydu i gyfnod o garchar.
Ail euogfarn o'r fath
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd adroddiad seiciatrig yn cael ei baratoi cyn iddo gael ei ddedfrydu ar 15 Rhagfyr.
Mae Davies hefyd wedi'i wahardd rhag cyfeirio at y ddwy fenyw ar gyfryngau cymdeithasol, mae wedi'i atal o bob safle'r BBC ac o'r pentref yn Sir Caer ble mae Ms Minchin yn byw.
Cafodd Davies ei ddedfrydu i gyfnod o garchar wedi'i ohirio yn y gorffennol am stelcian aelod o'r band Girls Aloud, Nicola Roberts.
Clywodd y llys fod Davies wedi gyrru'r negeseuon at Ms Minchin a'i merch rhwng 14 ac 17 Gorffennaf 2020, yn ystod y cyfnod o garchar wedi'i ohirio.