Pobl wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr achub ar bwys yr afonFfynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad fore Sadwrn

Mae pobl wedi marw yn dilyn digwyddiad ar afon yn Sir Benfro.

Cafodd ei gadarnhau bod un person wedi cael ei achub ar ôl i'r gwasanaethau brys chwilio Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd.

Dywedodd y cynghorydd tref Thomas Tudor ei fod yn "drychineb ofnadwy" ac anfonodd ei gydymdeimlad "at y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid".

Dechreuodd yr heddlu chwilio'r afon ar ôl adroddiadau bod grŵp o bobl wedi mynd i "drafferth" yn y dŵr.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwasanaethau ambiwlans, y gwasanaeth tân, yr heddlu a Gwylwyr y Glannau yn rhan o'r chwilio

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân a Gwylwyr y Glannau eu hanfon i'r digwyddiad am tua 9:00 fore Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Cafodd y chwilio o'r afon ei lansio'n gyflym, gyda 30 diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n gweithio ynghyd â chriw Gwylwyr y Glannau a chefnogaeth gan hofrenyddion."

Disgrifiad o’r llun,

Afon Cleddau Wen ddydd Sul

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Jonathan Rees nad oedd yn gallu rhyddhau manylion pellach ar hyn o bryd, ac nad oedden nhw'n dal i chwilio am unrhyw un ac o ganlyniad bod y chwilio wedi dod i ben.

Dywedodd mai ei flaenoriaeth oedd sicrhau bod y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad a'u teuluoedd yn cael gwybod am y digwyddiad, a'u bod nhw'n derbyn y gefnogaeth briodol.

Mae ymchwiliad i'r digwyddiad wedi dechrau.

'Ymdrechion dewr'

Dywedodd Mr Tudor: "Heddiw fe ddigwyddodd trychineb ofnadwy ar Afon Cleddau Wen."

"Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad at y teuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid yn y trychineb yma a hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion dewr.

"Hoffwn ddiolch i staff y Bristol Trader a Vaughans Radio a ddarparodd gymorth a chefnogaeth i'r gwasanaethau brys yn ystod y chwilio cymhleth."

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald

Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod un person wedi cael ei dywys i Ysbyty Llwynhelyg am driniaeth.

Yn gynharach gofynnodd Heddlu Dyfed-Powys i bobl aros i ffwrdd o'r ardal ger Stryd y Cei.

Mae yna rybudd am lifogydd ar gyfer afonydd yng ngorllewin ardal Cleddau yn dilyn glaw trwm nos Wener.

Gan ein gohebydd yn Hwlffordd, Garry Owen

Mae pobl yn y gymuned agos yma'n amlwg yn drist ac wedi'u syfrdanu am beth sydd wedi digwydd yma.

Mae pobl yn dweud bod yr amodau yn yr afon yn beryglus am tua 9:00.

Daeth glaw trwm i lawr yn sydyn yn ystod y bore ac roedd hefyd glaw trwm dros y dyddiau diwethaf.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw o bell i helpu gyda'r ymdrech.