Y gweithle yn lle 'trawmatig' i bobl awtistig

  • Cyhoeddwyd
Alice BanfieldFfynhonnell y llun, Alice Banfield
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd profiad Alice Banfield o weithio mewn siop yn un bositif

Mae menyw awtistig yn dweud bod ei phrofiad o weithio wedi bod yn "drawmatig" a bod angen i gyflogwyr ystyried anghenion pobl niwro-amrywiol.

Dywedodd Alice Banfield, 25 o Gaerdydd, bod yna ddiffyg cefnogaeth ar gyfer pobl awtistig yn y gweithle.

Gwnaeth y profiad o weithio "ddim fy annog i edrych am swydd," meddai.

Mae ffigyrau'n awgrymu mai dim ond 22% o oedolion awtistig, dolen allanol sydd wedi eu cyflogi yn y DU.

Ar ôl graddio o'r brifysgol, dechreuodd Alice swydd ran-amser fel cynorthwyydd siop dymhorol.

"Roedd e'n brofiad trawmatig i fi ar y pryd," meddai.

Dywedodd iddi beidio â derbyn unrhyw ganllawiau clir ac roedd yn anodd deall iaith-gorff ei chydweithwyr a'r cwsmeriaid.

Ychwanegodd fod yr amgylchedd prysur a llachar yn ei gor-stimiwleiddio.

'Dim cefnogaeth'

Ni theimlodd ei bod hi wedi derbyn cefnogaeth ychwaith ar ôl dweud wrth ei chyflogwr am ei chyflwr: "Do'n i ddim yn teimlo fel fy mod yn cael fy nghefnogi gan fy nghydweithwyr.

"Oedd e'n hynod o stressful ac o'n i'n teimlo lot o orbryder am y peth i'r pwynt lle cefais i anxiety attack yn ystod un o'n shifftiau.

"'Naeth e wir sbarduno [diffyg] ymddiriedaeth mewn gweithio gydag eraill a 'naeth e ddim annog fi i edrych am gyflogaeth eto ar ôl hwnna."

Ffynhonnell y llun, Alice Banfield
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alice Banfield nawr yn artist llaw-rydd

Mae Alice nawr yn artist llawrydd sy'n bwriadu addysgu pobl am awtistiaeth trwy ei gwaith.

"Dydw i ddim yn teimlo fel bod digon o gefnogaeth am gyflogaeth ar gyfer pobl awtistig," meddai.

Mae'n cael ei amcangyfrif bod un ym mhob saith person yn y DU yn niwro-amrywiol, sy'n cynnwys pobl sydd â dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ar y sbectrwm awtistig a chyflyrau niwrolegol arall.

Ffynhonnell y llun, Rebecca Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca Ellis yn meddwl y byddai addasiadau i bobl awtistig yn y gweithle'n newid positif

Mae Rebecca Ellis, 29, yn fyfyrwraig doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe a chafodd ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd hi'n 24.

Pan oedd hi'n gweithio fel cynorthwyydd mewn ysgol dwy flynedd yn ôl dioddefodd hi o flinder hirdymor a 'burnout'.

"Roedd e'n swnllyd iawn, pawb wastad yn ceisio cael eu cinio... mae'n brysur iawn a'n gyfeillgar iawn... ond mae hyd yn oed cyfeillgarwch yn gallu bod yn ormod a'n lot i ddelio gydag os chi'n ceisio cael munud i'ch hunan i gael llonydd."

Mae Rebecca yn dymuno gweld nifer o addasiadau ar gyfer pobl awtistig yn y gweithle.

Hoffai gael opsiwn gwahanol i gyfweliad, fel asesiad ysgrifenedig, neu newidiadau i'r ffordd mae cyfweliadau'n cael eu gweithredu, megis rhoi'r cwestiynau i bobl awtistig o flaen llaw.

Dechrau swydd yn anodd

"Mae dechrau swydd yn mynd i fod yn un o'r pethau mwyaf anodd i berson awtistig oherwydd dydych chi ddim wedi cwrdd â'ch cydweithwyr... dydych chi ddim yn gyfarwydd â'r amgylchedd, dydych chi ddim yn gwybod ffiniau'r swydd," meddai.

Awgrymodd y dylai cyflogwyr gynnig rhaglen sefydlu i weithwyr awtistig ar gyfer swydd newydd, yn ogystal â sesiynau mentora "chymryd y baich o ofyn am addasiadau i ffwrdd o'r person awtistig gan roi e i rywun sydd wedi cael eu hyfforddi i weithio mewn amgylchedd niwro-amrywiol".

Dywedodd y byddai'r rhan fwyaf o'r newidiadau o fudd i bawb yn y gweithle.

Ffynhonnell y llun, Vaughn Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Vaughn Price bod pobl awtistig yn wynebu rhwystrau yn y gweithle

Dr Vaughn Price yw'r prif seicolegydd yng ngholeg addysg bellach Beechwood yn Sili, Bro Morgannwg - coleg ar gyfer myfyrwyr sydd â chyflyrau sydd ar y sbectrwm awtistig.

Mae'r coleg yn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr trwy siop goffi'r coleg, trwy werthu eu crefftau ar-lein a thrwy gael gweithle sy'n adlewyrchu amgylchedd swyddfa.

Dywedodd y byddai'n beth da petai gweithleoedd yn gallu gwneud addasiadau ar gyfer gweithwyr awtistig: "Mae rhai o'r myfyrwyr rydw i'n gweithio gydag yn y bobl fwyaf... onest, ymroddedig a chreadigol dwi erioed wedi cwrdd â nhw. Mae'r posibiliadau'n wych."

Daeth Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, dolen allanol Llywodraeth Cymru i rym ym mis Medi.

Cyhoeddodd y llywodraeth hefyd gynllun, dolen allanol sy'n codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o awtistiaeth ac mae'r Cod Ymarfer yn cael ei restru fel blaenoriaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw "wedi ymrwymo i wella bywydau pobl awtistig a bod mynediad i gyfleoedd o gyflogaeth arwyddocaol yn rhan hollbwysig o hwn".

Dywedodd eu bod nhw'n ddiweddar wedi apwyntio pum Pencampwr Cyflogaeth ar gyfer Pobl Anabl i helpu i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy'n gweithio.

Pynciau cysylltiedig