Pedwar wedi'u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Cafodd bedwar person eu hanafu'n dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint yn oriau mân fore Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad o gwmpas 01:15 yn Ninas Gardd, Glannau Dyfrdwy.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y pedwar person eu cymryd i'r ysbyty am driniaeth.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig