Dyn yn cyfaddef tagu merch 16 oed mewn bwyty

  • Cyhoeddwyd
Wenjing LinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Chineaidd ei theulu

Mae dyn wedi cyfaddef ei fod wedi tagu merch 16 oed i farwolaeth mewn tŷ bwyta Chineaidd yn Rhondda Cynon Taf, ond mae'n gwadu ei llofruddio.

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Blue Sky yn Ynyswen ger Treorci ar 5 Mawrth eleni.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod Chun Xu, 32, yn cyfaddef dynladdiad y ferch ysgol ond ei fod yn gwadu ei llofruddio.

Mae hefyd yn gwadu ceisio llofruddio Yongquan Jiang, 38. Mae'n cyfaddef ei fod wedi ymosod arno gyda dwy gyllell ond yn gwadu ei fod wedi bwriadu ei ladd neu achosi niwed difrifol.

Yn ystod y gwrandawiad ddydd Llun clywyd bod Chun Xu wedi dweud wrth yr heddlu "nad oedd yn bwriadu brifo'r ferch fach ond ei fod am ddial ar ei mam".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chun Xu yn gwadu llofruddiaeth Wenjing Lin, a cheisio llofruddio Yongquan Jiang

Dywedodd yr Erlynydd Michael Jones QC wrth y llys bod Chun Xu wedi torri ei wddf ei hun wedi'r ymosodiad.

Clywodd y llys hefyd bod Chun Xu mewn dyled o £14,000 i'r teulu.

Doedden nhw ddim yn perthyn trwy waed ond yn y gorffennol roedd wedi cael ei ystyried yn nai i fam Wenjing, ac roedd yna dipyn o anghydweld wedi bod rhwng eu teuluoedd.

Clywodd y rheithgor hefyd bod Chun Xu, rai oriau cyn i Wenjing gael ei lladd, wedi chwilio'r we er mwyn canfod a fyddai tân yn cael gwared ar olion bysedd ar gyllyll neu friciau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wenjing Lin ym mwyty Blue Sky yn Ynyswen

Ar fore 4 Mawrth clywodd y llys bod Mr Xu wedi teithio o ardal Pontypridd gyda chyllell. Roedd yn byw yn yr ardal ac yn gweithio mewn tŷ bwyta Chineaidd arall.

Clywodd y llys nad oedd Mr Xu am i neb wybod am ei ymweliad a'i fod wedi bwyta ac aros noson yng nghartref Wenjing Lin.

Y bore canlynol roedd Wenjing yn paratoi i fynd i'r ysgol ac yn anfon negeseuon i'w ffrindiau ar Snapchat.

Dywedodd Mr Jones wrth y llys ei bod wedi anfon ei neges olaf am 09:27 ac nad oedd wedi ymateb i unrhyw neges ar ôl hynny am "ei bod wedi cael ei lladd gan y diffynnydd".

Yn ddiweddarach clywodd y llys bod Mr Xu wedi ymosod ar Mr Jiang â dwy gyllell wrth iddo agor rhewgell ar lawr gwaelod yr adeilad.

Wedi i Mr Jiang ofyn pam fod Mr Xu wedi ymosod arno, atebodd gan ddweud: "Arian, arian, arian."

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig