Swyddog heddlu'n rhan o ddamwain padlfyrddio Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
![tri padlfwrdd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17AA/production/_121285060_1.jpg)
Roedd tri padlfwrdd i'w gweld yn lle bu'r digwyddiad "torcalonnus" yn Hwlffordd
Swyddog heddlu oedd un o'r bobl fu'n rhan o ddamwain padlfyrddio yn Hwlffordd ddydd Sadwrn, meddai Heddlu De Cymru.
Bu farw tri padlfyrddiwr ac mae un arall yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl mynd i drafferthion mewn afon yn Sir Benfro.
Cafodd pump arall o'r un grŵp eu hachub yn ddi-anaf.
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r dyn fu farw, Paul O'Dwyer, ond nid yw enwau'r ddwy fenyw fu farw wedi eu cadarnhau eto.
Nid yw aelodau eraill y grŵp wedi eu henwi'n swyddogol eto chwaith.
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau eu bod yn cynnal "asesiad cychwynnol" i'r digwyddiad.
![Blodau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/CB83/production/_121299025_c48202f4-68cd-490b-8661-c21fe62fc884.jpg)
Roedd blodau i'w gweld ger y safle fore Llun
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 9:00 fore Sadwrn.
Roedd 20 swyddog heddlu a 30 diffoddwr tân yn rhan o'r chwilio, yn ogystal â thechnegwyr achub dŵr arbenigol.
Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym adeg y digwyddiad, ar ôl glaw trwm.
Ddydd Sul, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jonathan Rees nad oedden nhw am gyhoeddi manylion pellach am tro, ond dywedodd bod y chwilio ar ben, ac nad oedd unrhyw un arall ar goll.
![Paul O'Dwyer](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/150E9/production/_121294268_c6b1631d-b9c0-447f-8080-cc96cd04f37e.jpg)
Bu farw Paul O'Dwyer yn y digwyddiad fore Sadwrn
Roedd Matthew Crowley - sy'n cynrychioli Aberafan a Dwyrain Sandfields ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot - yn adnabod Mr O'Dwyer am y rhan fwyaf o'i oes.
Mr O'Dwyer oedd "bywyd ac enaid y parti, o oedran ifanc iawn," meddai, gan ychwanegu ei fod bob amser wedi bod yn "frwd dros chwaraeon".
"Roedd yn ymwneud â syrffio, padlfyrddio, sgïo, unrhyw beth i'w wneud â dŵr," meddai Mr Crowley.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod ei "feddyliau gyda'r teuluoedd a'r ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid yn dilyn y drasiedi dorcalonnus yma".
Dros y penwythnos, dywedodd yr heddlu bod aelod o'r cyhoedd wedi neidio i mewn i'r afon i geisio achub y padlfyrddwyr, ond fe lwyddodd i ddod allan o'r dŵr yn ddiogel.
![Afon Cleddau Wen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13E29/production/_121294418_dd7005a4-1a97-4e6f-8f4d-c49823e4d441.jpg)
Roedd y dŵr yn Afon Cleddau Wen yn parhau'n uchel ddydd Sul
Dywedodd Natasha Williams fod ei mab hi Joel, 20, wedi neidio i mewn i'r afon pan welodd fod y padlfyrddwyr mewn trafferthion.
"Fe welodd e Paul gyntaf a cheisio cael rhaff iddo, ac wrth iddo geisio cael Paul fe welodd e ddynes yn dod tuag ato," meddai.
"Fe roddodd e'r rhaff i ddyn, a mynd i mewn ar ôl y ferch, yna rhoi CPR tan i'r gwasanaethau brys gyrraedd."
Ychwanegodd Natasha fod Joel yn nofiwr cryf, ac felly er i bobl ei rybuddio i beidio â mynd i'r dŵr, fe neidiodd i mewn beth bynnag.
"Roedd e yn y dŵr am ryw bum munud, ac yna'n dweud ei fod wedi gwneud CPR am ryw dri i bum munud," meddai Natasha.
"Doedden ni ddim wir wedi sylweddoli beth wnaeth e... tan i ni weld [y newyddion] y noson honno."
![Gweithwyr achub ar bwys yr afon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/09A3/production/_121276420_athena.jpg)
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad fore Sadwrn
Roedd y padlfyrddwyr yn aelodau o grŵp padlfyrddio o dde Cymru a chwmni Salty Dog Co., yn ôl asiantaeth newyddion PA.
Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd dros y penwythnos.
Dywedodd un fenyw wrth asiantaeth newyddion PA ei bod hi wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y padlfyrddio fore Sadwrn am ei bod hi'n poeni am y tywydd.
![gwasanaethau brys ar y ffordd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F6FD/production/_121292236_athena.jpg)
Roedd Stryd y Cei ar gau am rai oriau ddydd Sadwrn
Dywedodd y cynghorydd tref Thomas Tudor fod Afon Cleddau Wen yn "beryglus" a bod cyflymder y dŵr yn "cynyddu llawer" ar ôl glaw trwm.
"Mae'r gymuned yn drist iawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021