Hwlffordd: Dyn a dwy fenyw wedi marw mewn digwyddiad padlfyrddio

  • Cyhoeddwyd
Paul O'DwyerFfynhonnell y llun, Aberavon Green Stars RFC
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul O'Dwyer yn y digwyddiad fore Sadwrn

Mae tri padlfyrddiwr wedi marw ac mae un yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl mynd i drafferthion mewn afon yn Sir Benfro.

Bu farw dwy fenyw ac un dyn yn y digwyddiad ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd fore Sadwrn, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Mae un fenyw yn dal yn yr ysbyty. Cafodd pump arall o'r un grŵp eu hachub yn ddi-anaf.

Fe lwyddodd aelod o'r cyhoedd a aeth i'r dŵr i helpu i osgoi anaf.

Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym ar ôl glaw trwm.

Maen nhw'n cynnal "ymchwiliad trylwyr", ac wedi annog padlfyrddwyr eraill i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r tywydd a'r dŵr cyn mentro allan.

Nid oes unrhyw un o'r rhai a fu farw neu a oedd yn rhan o'r grŵp wedi eu henwi'n swyddogol eto.

Ond mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r dyn fu farw, Paul O'Dwyer.

Ffynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tri padlfwrdd i'w gweld yn lle bu'r digwyddiad "torcalonnus" yn Hwlffordd

Roedd Matthew Crowley - sy'n cynrychioli Aberafan a Dwyrain Sandfields ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot - yn adnabod Mr O'Dwyer am y rhan fwyaf o'i oes.

Dywedodd mai Mr O'Dwyer oedd "bywyd ac enaid y parti, o oedran ifanc iawn" gan ychwanegu ei fod bob amser wedi bod yn "frwd dros chwaraeon".

"Roedd yn ymwneud â syrffio, padlfyrddio, sgïo, unrhyw beth i'w wneud â dŵr," meddai Mr Crowley.

"Mae'n dod o gefndir teuluol gwych. Cwmpawd moesol da iawn.

"Rhoddodd Paul gymaint o'i amser a'i egni i elusennau."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dŵr yn Afon Cleddau Wen yn parhau'n uchel ddydd Sul

Mae cwmni dillad Salty Dog Co hefyd wedi talu teyrnged iddo.

Mewn trydariad, sydd bellach wedi'i ddileu, dywedodd y cwmni o Bort Talbot eu bod nhw'n dweud hwyl fawr gyda "chalon drom" ac y byddai Mr O'Dwyer yn cael ei golli'n fawr.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd wedi dweud bod ei "feddyliau gyda'r teuluoedd a'r ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid yn dilyn y drasiedi dorcalonnus yma".

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi cael eu gadael ger lleoliad y digwyddiad

Yn ôl yr heddlu, neidiodd aelod o'r cyhoedd i mewn i'r afon i geisio achub y padlfyrddwyr, ond fe lwyddodd i ddod allan o'r dŵr yn ddiogel.

Yn ôl asiantaeth newyddion PA, roedd y padlfyrddwyr yn aelodau o grŵp padlfyrddio o dde Cymru a chwmni Salty Dog Co.

Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 9:00 fore Sadwrn

Dywedodd un fenyw wrth asiantaeth newyddion PA ei bod hi wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y padlfyrddio fore Sadwrn am ei bod hi'n poeni am y tywydd.

Dywedodd Vickie Mckinven, o Aberdaugleddau, bod y digwyddiad yn "hollol dorcalonnus" ac roedd hi'n "ffrindiau da" gyda'r grŵp, a oedd yn gwneud "gymaint o godi arian i elusennau".

Mae rhybuddion am lifogydd wedi bod mewn grym ar gyfer afonydd ar draws Sir Benfro, yn cynnwys ardal Afon Cleddau Wen yn dilyn dyddiau o law trwm.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân a Gwylwyr y Glannau eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 9:00 fore Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Stryd y Cei ar gau am rai oriau ddydd Sadwrn

Roedd 20 swyddog heddlu a 30 diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhan o'r chwilio, yn ogystal â thechnegwyr achub dŵr arbenigol.

Helpodd dau gwch y gwasanaeth tân gyda'r chwilio, yn ogystal â thimau Gwylwyr y Glannau a hofrenyddion.

Anfonodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd nifer o ambiwlansys i'r lleoliad a chafodd menyw oedd wedi ei hanafu ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Roedd Stryd y Cei ar gau am nifer o oriau ddydd Sadwrn tra'r oedd y chwilio'n mynd rhagddo.

'Trasiedi'

Dywedodd y cynghorydd tref Thomas Tudor fod Afon Cleddau Wen yn "beryglus" a bod cyflymder y dŵr yn "cynyddu llawer" ar ôl glaw trwm.

Ychwanegodd fod y gymuned wedi "dod at ei gilydd" ddydd Sadwrn i helpu ymdrechion y gwasanaethau brys, yn cynnwys staff y Bristol Trader, Vaughans Radio a "nifer" o fusnesau arall.

"Mae'r gymuned yn drist iawn," meddai.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jonathan Rees nad oedden nhw am gyhoeddi manylion pellach ar hyn o bryd, gan ychwanegu fod y chwilio ar ben, ac nad oedd unrhyw un arall ar goll.

Dywedodd mai ei flaenoriaeth oedd sicrhau bod y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad, a'u teuluoedd, wedi cael gwybod, ac yn derbyn y gefnogaeth briodol.

Mae'r Crwner a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod.

Fe anfonodd Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) dîm o ymchwilwyr i'r lleoliad i gychwyn asesiad rhagarweiniol.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald

Mewn teyrnged nos Sul, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson: "Rydyn ni i gyd erbyn hyn yn ymwybodol o'r digwyddiad ddydd Sadwrn ar Afon Cleddau ochr yn ochr â Neuadd y Sir yn Hwlffordd.

"Roedd y canlyniad ddydd Sadwrn yn drasig ac rwy'n siŵr fel fi fod ein meddyliau'n mynd allan i bawb sy'n gysylltiedig ac mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd allan i deuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau.

"Mae hwn yn ymchwiliad parhaus dan arweiniad yr heddlu felly gofynnaf yn garedig ein bod yn caniatáu amser i'r heddlu gynnal eu hadolygiad.

"Rwyf am roi fy niolch diffuant i bawb sy'n ymwneud â delio â'r digwyddiad hwn."

Dywedodd cyn-faer tref Hwlffordd Roy Thomas nad oedd "geiriau gall ddisgrifio'r hyn sydd wedi digwydd," ac mai'r flaenoriaeth oedd rhannu cydymdeimlad â theulu Paul O'Dwyer.