Canfod achosion ffliw adar mewn eiddo yn ardal Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
DofednodFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae achosion ffliw adar wedi eu cadarnhau mewn dofednod ac adar gwyllt mewn eiddo yn ardal Wrecsam, medd Llywodraeth Cymru.

Mae ymchwiliad milfeddygol ar y gweill a pharthau rheoli clefydau dros dro - o 3 cilomedr a 10 cilomedr - wedi eu gosod "o amgylch yr eiddo bach sydd wedi'i heintio, i gyfyngu ar y risg o ledaenu'r clefyd".

Credir mai adar gwyllt sydd wedi'u darganfod yn farw yn yr ardal, ac wedi profi'n bositif am straen N5N1 y feirws, yw ffynhonnell yr haint.

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Christianne Glossop yn pwysleisio bod y risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, a bod dim risg i ddiogelwch bwyd.

Mae yna gyngor i'r cyhoedd beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw, dolen allanol.

Atal lledu'r clefyd ymhellach

"Mae hyn yn dystiolaeth bellach o'r angen am i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth i sicrhau bod ganddynt y lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle," dywedodd Dr Glossop.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi nodi'n glir nad yw'n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

"Mae parthau rheoli dros dro wedi'u gosod i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

"Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw amheuaeth o ffliw adar neu unrhyw glefyd arall y dylid hysbysu amdano."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bellach mae'n ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar gadw eu hadar mewn clostiroedd, neu lefydd caeëdig

Mae pobl sy'n cadw adar yn cael eu cynghori i gadw golwg am arwyddion o'r clefyd "fel mwy o farwolaethau neu ofid resbiradol", ac i drafod unrhyw bryderon gyda milfeddyg.

"Mae'n gallu bod yn broblem fawr mewn grŵp o adar," meddai'r milfeddyg Meleri Tweed wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mae'n rhaid cofio bod nhw'n wahanol iawn i anifeiliaid anwes... ac felly [mae'n rhaid bod] yn ymwybodol o'r rheolau ar gyfer cadw dofednod."

Ymhlith y cyngor ar gyfer perchnogion dofednod, meddai, mae eu cofrestru nhw a glanhau eu gofod byw yn rheolaidd, eu cadw ar wahân oddi wrth anifeiliaid ac adar gwyllt eraill, a chadw unrhyw ieir newydd ar wahân rhag y gweddill am o leiaf tair wythnos.

Dyma'r achosion ffliw adar cyntaf i'w cofnodi yng Nghymru ers mis Ionawr.

Mae achosion tebyg wedi eu cadarnhau yn y DU ac Ewrop hefyd.

Beth yw ffliw adar?

Ffliw adar, neu ffliw avian, yw ffliw heintus sy'n lledaenu ymysg adar.

Dywed y GIG ei fod yn gallu effeithio ar fodau dynol - ond dim ond mewn achosion prin.

Hyd yn hyn does dim achosion o bobl wedi'u heintio gan y ffliw adar yn y DU, yn ôl y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Gwarchod Adar (RSPB).

Mae ffliw yn lledaenu trwy gyswllt agos gydag aderyn sydd wedi'i heintio, p'un ai ei fod wedi marw neu'n fyw.

Mae yna ddau fath o'r feirws - un heintus iawn ac un llai heintus, meddai'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE).

Pynciau cysylltiedig