Cadarnhad o ffliw adar mewn ffesantod ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae ffliw adar wedi cael ei gadarnhau mewn ffesantod ar Ynys Môn, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru bod straen H5N8 ar safle ym Mhenysarn ger Amlwch.
Mae parth rheoli dros dro wedi cael ei gyflwyno o gwmpas yr ardal sydd wedi'i heintio, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu.
Mae nifer yr adar sy'n marw ar y safle'n uchel, a bydd yr holl adar sy'n goroesi yn y grŵp sydd wedi'u heffeithio yn cael eu difa.
Dyma'r cadarnhad cyntaf o'r haint yng Nghymru yn ystod gaeaf 2020/21, meddai'r llywodraeth.
Mae'n dilyn cadarnhad o nifer o achosion o ffliw adar mewn rhannau eraill o'r DU dros y gaeaf.
Daeth y parth rheoli dros dro i rym ar 27 Ionawr am 21:00, a bydd mewn lle tan fod y datganiad yn cael ei dynnu neu ei addasu, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl canlyniadau labordy i brofi pa mor heintus yw'r feirws yn y 48 awr nesaf.
Daeth mesurau newydd i rym yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 14 Rhagfyr, yn ei wneud yn orchymyn cyfreithiol i gadw adar mewn tir caeedig ac i ddilyn mesurau diogelwch llym.
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar sail y dystiolaeth wyddonol sydd ar gael, mai risg isel iawn y mae'r ffliw adar yn peri i ddiogelwch bwyd yn y DU.
Beth yw ffliw adar?
Ffliw adar, neu ffliw avian, yw ffliw heintus sy'n lledaenu ymysg adar.
Dywed y GIG ei fod yn gallu effeithio ar fodau dynol - ond dim ond mewn achosion prin.
Hyd yn hyn does dim achosion o bobl wedi'u heintio gan y ffliw adar yn y DU, yn ôl y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Gwarchod Adar (RSPB).
Mae ffliw yn lledaenu trwy gyswllt agos gydag aderyn sydd wedi'i heintio, p'un ai ei fod wedi marw neu'n fyw.
Mae yna ddau fath o'r feirws - un heintus iawn ac un llai heintus, meddai'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2016