Llanbedr: Cyhuddo Cyngor Gwynedd o 'redeg i ffwrdd'
- Cyhoeddwyd
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o "redeg i ffwrdd" o'i ddyletswyddau i daclo newid hinsawdd, wrth i ffrae am ffordd osgoi waethygu.
Ddydd Llun fe wnaeth y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd, Lee Waters wrthod y cynlluniau i gael ffordd osgoi i bentref Llanbedr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru, fod y llywodraeth wedi "aberthu ardaloedd gwledig yn wyneb newid hinsawdd".
Ond mae Mr Waters wedi dweud fod cynghorwyr wedi dangos diffyg arweiniad ar y mater.
'Dangos arweiniad'
Cafodd caniatâd ar gyfer y ffordd osgoi milltir o hyd ei roi ym mis Mawrth 2020 wedi blynyddoedd o drafod, gyda Llywodraeth Cymru'n addo £10m o fuddsoddiad.
Roedd yna ddadleuon bod angen ffordd osgoi am fod lonydd cul y pentref ar yr A496 yn achosi oedi - yn rhannol wrth i bobl ymweld â thraeth poblogaidd Mochras.
Gobaith Cyngor Gwynedd oedd y byddai'r ffordd hefyd yn gwella'r mynediad at Faes Awyr Llanbedr.
Ond mae'r penderfyniad diweddaraf wedi dod yn sgil adolygiad o brosiectau ffyrdd y llywodraeth, gyda phanel yn dod i'r casgliad y byddai'r ffordd yn debygol o arwain at gynnydd mewn allyriadau carbon.
Fe wnaeth hynny godi gwrychyn gwleidyddion Plaid Cymru yn lleol, gyda Mr Siencyn yn eu cyhuddo o "aberthu ardaloedd gwledig yn wyneb newid hinsawdd tra bo'r gwir broblem a'r atebion yn ein hardaloedd trefol".
Ond wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg, dywedodd Mr Waters nad oedd credu fod sylwadau Mr Siencyn "yn gywir", gan dynnu sylw at y ffaith bod Gwynedd - fel y Senedd - wedi datgan argyfwng hinsawdd.
"Does dim pwynt i arweinwyr a'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau i ddweud eu bod nhw'n cytuno gyda'r egwyddor o daclo newid hinsawdd, ac wedyn pan mae'n dod at y camau sydd angen eu cymryd, rhedeg ffwrdd a dweud pethau brawychus," meddai.
"Nid dyna'r arweinyddiaeth mae tasg o'r maint yma yn galw amdano."
Dywedodd fod yr arian a gafodd ei addo gan Lywodraeth Cymru'n dal yno, a'u bod am "weithio gyda nhw i edrych at ddatrysiadau eraill" i daclo'r tagfeydd traffig.
Mae nifer o gynlluniau ffyrdd eraill yng Nghymru mwy neu lai ar stop am y tro, tra bod Llywodraeth Cymru'n cynnal eu hadolygiad.
Mynnodd Mr Waters nad oedd hynny'n golygu na fyddai ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu - dim ond fod "y bar wedi codi" pan oedd hi'n dod at asesu pa mor briodol ydyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021