Oedi pob cynllun adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd holl gynlluniau ar gyfer ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu hatal tra bod Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad.
Byddai'n golygu oedi cynlluniau am 'Lwybr Coch' Glannau Dyfrdwy, ffordd osgoi Llandeilo a thrydedd bont rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae prosiectau sydd eisoes wedi dechrau, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd a ffordd osgoi Caernarfon, yn parhau.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw symud arian o adeiladu ffyrdd newydd i gynnal a chadw ffyrdd presennol a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
'Rhaid gwneud mwy o lawer'
Mewn datganiad yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters bod yn rhaid "rhoi'r gorau i wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru".
"Ers 1990, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31%," meddai. "Ond i gyrraedd ein targed statudol o allyriadau Sero-Net erbyn 2050, rhaid gwneud mwy o lawer.
"Yn y 10 mlynedd nesaf, bydd angen i ni sicrhau fwy na dwywaith y toriadau gafodd eu gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf os ydym am gadw'r cynnydd yn y tymheredd o fewn terfynau diogel. Bydd hynny'n golygu gwneud newidiadau ym mhob rhan o'n bywydau."
Ychwanegodd Mr Waters: "Trafnidiaeth sydd i gyfrif am ryw 17% o'n holl allyriadau, felly rhaid iddi chwarae ei rhan.
"Rhaid i ni roi'r gorau i wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a gwario mwy o arian ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn pethau fydd yn rhoi dewis go iawn i bobl."
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn Llinos Medi Huws ei bod yn siomedig bod y newyddion wedi dod ar ôl blynyddoedd o "drafod a bron iawn sicrwydd" bod trydedd bont yn dod.
"Hefo'r ochr amgylcheddol mae rhywun yn gallu gwerthfawrogi ac yn dilyn yr argyfwng yma, pobl yn gweithio yn wahanol a llai o symudiadau ond i ni yn fan hyn yn amlwg mae cysylltiad gyda'r tir mawr ei angen am gymaint o resymau," meddai Ms Huws ar raglen radio Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae ganddon ni y porthladd yng Nghaergybi ac ry'n ni'n trio hyrwyddo y porthladd yna gymaint ag y gallwn ni, ac mae symudiadau pobl yn angenrheidiol ar y tir mawr ar gyfer gwasanaethau iechyd ac yn y blaen, felly mae hwn yn sefyllfa wahanol i'r rhai eraill."
Mae'r penderfyniad hefyd yn cael effaith ar y cynllun i adeiladu ffordd osgoi Llandeilo yn Sir Gâr.
Siom hefyd oedd ymateb Owen James, cyn-faer a chynghorydd tref Llandeilo.
"Hwn yw'r trydydd, pedwaredd amser oedi, neu dileu i'r prosiect," meddai.
"Digwyddodd hyn flwyddyn diwethaf, a'r flwyddyn cyn hynny, a dechreuon nhw oedi biti 2019, a ni yma nawr mynd mewn i 2022 a s'dim byd yn y llawr to fel rhaw na dim byd. S'dim lot o sioc ond mae e'n siomedig.
"Mae llygredd yn Llandeilo yn afiach o ran lefelau. Mae Llandeilo yn un o dair tref yn Sir Gaerfyrddin, gyda Air Quality Management Area maen nhw yn cadw llygad ar lefel y llygredd yn yr aer. Mae rili ishe rhywbeth cael ei wneud."
Y ddadl amgylcheddol
Ond roedd yna groeso hefyd ymhlith ymgyrchwyr amgylcheddol.
"Mae'n amser i ni feddwl pa fath o ddyfodol 'da ni isho," meddai'r naturiaethwr Keith Jones.
"Dwi'n deall gyda y sefyllfa yn Sir Fôn, ond mae 'na argyfwng arnon ni rŵan - dim mewn pum, 10 mlynedd mae angen gweithredu, mae angen gweithredu heddiw.
"Ni'n edrych ar ddyfodol ofnadwy yng Nghymru, efo pa mor boeth... pa mor stormus mae'n gallu bod. Ni'n gweld yr olion rŵan ac mae angen gweithredu.
"Dwi'n cytuno gyda Llywodraeth Cymru bod angen rhoi stop, ond am rŵan hefyd mae angen cynnal a chadw y pethau sydd ganddon ni yn barod, achos dyw y newid mawr mewn trafnidiaeth ddim yn mynd i ddigwydd dros nos."
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi bod galw am waharddiad o'r fath ar adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru.
Pan ofynnwyd i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ar raglen Politics Wales a oedd yn cytuno, atebodd: "Mae'n demtasiwn i ddweud 'wrth gwrs wnawn ni ddim adeiladu ffyrdd newydd'.
"Ond mae materion cymhleth iawn fan hyn ynghylch safon aer, pa lwybrau traffig y mae pobl yn teithio arnyn nhw, faint o geir sydd ar y ffyrdd ac yn y blaen."
Mae Cymru'n ceisio cyrraedd allyriadau carbon net sero erbyn 2050, a thrafnidiaeth yw'r trydedd ffynhonnell fwyaf o nwyon sy'n achosi newid hinsawdd, medd Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol.
Mae strategaeth trafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru - Llwybr Newydd - yn dweud fod rhaid haneru allyriadau trafnidiaeth Cymru rhwng 2020 a 2030, sef gostyngiad o 6m i 3m tunnell o garbon deuocsid.
Mae'n ychwanegu: "Er mai cerbydau trydan sy'n debyg o achosi'r gostyngiadau mwyaf, mae hynny'n annhebygol o gael effaith tan yr 2020au hwyr ac o bosib yn hwyrach."
Fe ddywed y llywodraeth fod angen mesurau eraill yn ogystal, gan gynnwys targed o 30% o'r gweithlu yn gweithio o adre, a chynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio.
Ar hyn o bryd mae tua 32% o deithiau'n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio, a tharged y llywodraeth yw cynyddu hynny i 45% erbyn 2040.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywed llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd a thrafnidiaeth, Delyth Jewell: "Wrth i ni geisio adfer o'r pandemig, mae gennym gyfle i adeiladu cenedl a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol.
"Mae buddsoddi mewn teithio actif a seilwaith gwyrdd yn rhan allweddol o'r Gymru honno yr ydym am ei hadeiladu.
"Er fod y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn arwydd eu bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael ag allyriadau carbon, mae'n golygu bod cymunedau sydd wedi bod yn hen aros am fuddsoddiad mewn prosiectau seilwaith yn cael eu gadael ar ôl."
Dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth, Natasha Asghar, y bydd y penderfyniad i rewi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd yn "siomedig".
Mae hi'n dweud bod y gweinidog "yn ymddangos yn benderfynol o adael i'n ffyrdd ddirywio a gorfodi pawb ar drafnidiaeth gyhoeddus, er gwaethaf amheuon mawr ynghylch gallu'r rhwydwaith yng Nghymru i ymdopi ar ôl blynyddoedd o ddiffyg reolaeth a thanfuddsoddi".
"Mae gweithwyr a busnesau Cymru angen mwy o wybodaeth ar frys am gwmpas yr adolygiad a bwriadau tymor hir Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer ein seilwaith trafnidiaeth," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2021