Tynnu portread Picton yn 'drobwynt' i'r Amgueddfa
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Cymru wedi disgrifio tynnu portread o Syr Thomas Picton i lawr o oriel Wynebau Cymru fel "trobwynt" i'r amgueddfa.
Roedd yr Is-gadfridog a oedd yn cael ei ystyried yn arwr ym Mrwydr Waterloo hefyd yn adnabyddus am ei greulondeb i gaethweision tra'n llywodraethwr ar Ynys Trinidad.
Mae'r portread gan yr artist Syr Martin Shee wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ers ei sefydlu ym 1907 ac mae wedi cael ei arddangos bron yn barhaus ers dros 100 mlynedd.
Fe wnaed y penderfyniad i dynnu'r portread i lawr fel rhan o brosiect Ail-fframio Picton ddaeth yn sgil protestiadau gwrth hiliaeth Mae Bywydau Du o Bwys y llynedd.
'Trafodaeth gymhleth'
"Mae hwn yn drobwynt i'r amgueddfa wrth gofio taw amgueddfa genedlaethol y'n ni," medd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru.
"Dylen ni fod yn cynrychioli pawb yng Nghymru. Ry'n ni wedi bod yn gweithio gyda gwahanol ffrindiau a chymdeithasau i drafod dyfodol Picton... i drafod sut y dylen ni arddangos e yn y dyfodol, os y gwnawn ni arddangos e yn y dyfodol.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau gyda'r drafodaeth.
"Mae hwn yn drafodaeth gymhleth ac mae angen i ni barhau i wrando ar ein gilydd a dwi yn meddwl byddwn ni'n trafod Picton ymhellach, ond efallai'n bwysicach yn trafod beth y'n ni'n casglu yn yr amgueddfa, pwy ni'n cynrychioli, pam?
"Ble mae'r bylchau yn y casgliadau a sut y ni'n gallu gwir gynrychioli pawb yng Nghymru o fewn ein casgliadau ni."
Mae portread o'r enw 'William Lloyd, Gwrychwr a Thorrwr Ffosydd' wedi cymryd lle portread Picton.
Cafodd hwn ei baentio gan yr artist o'r Iseldiroedd, Albert Houthuesen a dreuliodd gyfnod yng nghymuned lofaol Trelogan yn Sir y Fflint yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf.
"Mae e'n weithiwr cyffredin, bilwg yn ei law a falle ei fod e'n cynrychioli ni fel Cymry mewn ffordd fydde Picton byth yn gallu neud," meddai Kath Davies.
Mae'r dewis wedi ei groesawu gan Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr Panel Cynghori Is-Sahara.
"Wrth i ni geisio creu Cymru sy'n gynhwysol a hafal, yn canolbwyntio ar gyd-dynnu cymunedol, ac yn gwerthfawrogi gwahanol ddiwylliannau ein gwlad, mae angen i ni ddathlu'r bobl sy'n cynrychioli ein cymdeithas," meddai.
"Dylai'r bobl hyn gael eu gweld yn oriel Wynebau Cymru."
Er iddo gael ei glodfori fel arwr rhyfel roedd gan Syr Thomas Picton enw drwg am greulondeb yn ystod ei oes.
Bu'n rhaid iddo sefyll ei brawf ym Mhrydain ar ôl cael ei gyhuddo o arteithio Luisa Calderon, merch 14 oed oedd wedi ei chyhuddo o ddwyn.
Fe'i cafwyd yn euog ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi yn ddiweddarach.
'Angen arddangos hanes yn ei holl gymhlethdod'
Er gwaetha ei enw drwg dyw'r hanesydd Dr Marion Loeffler ddim am weld y portread ohono yn cael ei roi o'r golwg mewn stordy.
Dywedodd: "Dwi'n gweld hyn fel cyfle i ail ddehongli ystafell Wynebau Cymru i ddangos cysylltiadau byd-eang... ond hefyd i ddangos beth oedd rôl y dynion a'r menywod mawr yma yn y Gymru ymerodrol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Beth sy'n bwysig hefyd yw bod ni ddim yn sôn am y da a'r drwg oherwydd dyna mae cenedlaethau o'n blaenau wedi 'neud. Mae angen arddangos hanes yn ei holl gymhlethdod."
Yn ôl yr amgueddfa dechrau'r broses o werthuso casgliadau yw hyn.
"Mae'r ymateb i beth ddigwyddodd blwyddyn diwetha' gyda Black Lives Matter wedi cyflymu'r agenda ond ry'n ni wrthi nawr yn edrych ar gasgliadau yn eu cyfanrwydd achos mae problemau ym mhob ardal o'r casgliad," meddai Kath Davies.
"Ry'n ni'n edrych ar lle mae'r bylchau, pwy ni'n cynrychioli a sut mae cynrychioli pobl yn y ffordd bydden nhw ishe cael eu cynrychioli."
Mae'r amgueddfa wedi comisiynu artistiaid sydd â'u gwreiddiau yn Trinidad i ymateb i'r portread o Syr Thomas Picton.
"Maen nhw nawr yn ystyried sut y byddan nhw'n arddangos y gwaith hwnnw ac a fydd portread Syr Thomas Picton yn rhan ohono."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020