Gorchuddio cerflun Syr Thomas Picton yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Bocs PictonFfynhonnell y llun, Alex Seabrook
Disgrifiad o’r llun,

Mae bocs pren wedi'i osod o amgylch y cerflun tra'u bod yn ceisio cael caniatâd i'w symud

Mae cerflun o Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd wedi cael ei orchuddio.

Daw wedi i gynghorwyr y ddinas bleidleisio nos Iau o blaid tynnu'r cerflun o'i safle.

Cafodd bocs pren ei osod o amgylch y cerflun marmor ddydd Gwener.

Mae'r cyngor nawr yn ceisio cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru a Cadw i'w dynnu o'r adeilad, proses allai gymryd dros 20 wythnos.

Mae Picton yn cael ei gofio fel y swyddog mwyaf blaenllaw i farw ym Mrwydr Waterloo, ond roedd yn euog hefyd o gam-drin caethweision tra'n llywodraethwr ar ynys Trinidad.

Fe ddaeth y galwadau i dynnu'r cerflun - sydd wedi bod yn Neuadd y Ddinas ers 1916 - wedi i brotestwyr Black Lives Matter dynnu cerflun o Edward Colston, oedd hefyd â chysylltiadau gyda chaethwasiaeth, ym Mryste.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun o Syr Thomas Picton wedi bod yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ers 1916

Roedd Arglwydd Faer Caerdydd, Dan De'Ath yn un o'r rheiny wnaeth arwain yr ymgyrch i gael gwared â'r cerflun, gan ddisgrifio Picton fel "bwystfil".

Dywedodd ei fod yn "falch iawn gyda'r ffordd ry'n ni wedi gwneud y penderfyniad, yn ddemocrataidd".

"Mae'n symbolaidd iawn ei fod yn dod lawr," meddai'r cynghorydd De'Ath.

"Mae'n rhan o'n hanes. Dydyn ni ddim yn dinistrio hanes - ry'n ni'n gwneud hanes."

"Mae hi'n llawer mwy addas i Syr Thomas fod yn un o'n hamgueddfeydd gwych yn hytrach nag yma, wrth galon democratiaeth yn y brifddinas."