Ymgyrch fawr i achub dyn o ogof ym Mannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd
Mae'n "fater o amser" tan i ddyn sydd wedi bod yn sownd mewn ogof ym Mannau Brycheiniog gael ei dynnu i'r wyneb, yn ôl achubwyr.
Cafodd y dyn ei anafu ar ôl syrthio yn rhwydwaith ogofâu Ffynnon Ddu ger Ystradgynlais ddydd Sadwrn.
Yn ôl llefarydd ar ran Tîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru, mae'r dyn wedi derbyn nifer o anafiadau, ond "nid yw'r anafiadau hynny yn peryglu ei fywyd".
Dywedodd y llefarydd fod y dyn mewn cyflwr sefydlog, bod doctor yn ei fonitro a'u bod yn ffyddiog mai mater o amser ydy hi tan y bydd modd ei gael allan o'r ogof.
Ychwanegodd y tîm achub fod y dyn yn ei 40au canol, a'i fod mewn "hwyliau da".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan ogofäwr arall am tua 14:30 ddydd Sadwrn.
Er bod y dyn sydd wedi ei anafu yn ogofäwr profiadol, mae achubwyr wedi dweud ei fod yn "ffodus" i fod yn fyw ar ôl disgyn.
Mae o leiaf wyth o dimau achub o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn cynorthwyo'r ymdrech i ddod â'r gŵr i'r wyneb.
Mae 242 o bobl wedi bod yn rhan o'r cyrch hyd yn hyn.
Mae ambiwlans hefyd wrth law ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhan o'r ymdrech.
Dyma'r ymgyrch hiraf erioed gan dimau de Cymru i achub person o ogof, gan ei fod bellach wedi cymryd dros 48 awr o waith.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Tîm Achub Ogofeydd De Cymru: "Ddydd Sadwrn, 6 Tachwedd, roedd dyn ar daith yn system ogofeydd Ffynnon Ddu pan ddisgynnodd gan arwain at anafiadau oedd yn golygu nad oedd yn medru gadael ar ei liwt ei hun.
"Fe wnaeth ogofwr arall alw'r heddlu ac fe wnaeth Tîm Achub Ogofeydd De a Chanolbarth Cymru ddechrau ymateb.
"Mae'r digwyddiad wedi parhau dros nos. Rydym ar hyn o bryd yn hebrwng y person a gafodd ei anafu tuag at fynedfa uchaf yr ogof sy'n uchel yn y mynyddoedd y tu ôl i Penwyllt."
Dywedodd gohebydd BBC Cymru, Garry Owen wrth raglen Dros Frecwast bod dros 50 o gerbydau tu allan i bencadlys y tîm achub ogofeydd wrth fynedfa ogof Ffynnon Ddu ym Mhenwyllt, sydd ym mhen uchaf Cwm Tawe.
Dywedodd ei fod wedi siarad â swyddog tîm achub a bod yntau wedi "dweud wrtha'i bod nhw wedi symud 'mlaen yn yr ymdrech i achub yr ogofwr" ond nad oedd mewn sefyllfa i gynnig rhagor o wybodaeth am y tro.
"Mae yna hen res o fythynnod gweithwyr fan hyn, mae yna hen waith brics ar y safle," meddai. Mae'n le reit anghysbell, ond mae'r bythynnod ma' wedi eu cymryd drosodd gan y tîm achub ac wedi cael eu troi yn bencadlys iddyn nhw."
"Mae'r ymdrech yn parhau y bore ma', ond mae wedi cynyddu yn yr ystyr bod timau achub o bob rhan o'r DU bellach yn rhan o hyn."
Mae ogofeydd Ffynnon Ddu yn boblogaidd gydag ogofwyr profiadol. Mae'r mynedfeydd wedi eu cloi, a does ond modd cael mynediad gyda'r cyfarpar cywir a thrwydded drwy Glwb Ogofa De Cymru.
Dywedodd un o'r timau achub bod nifer o dimau de Lloegr wedi bod yn helpu'r ymdrech cyn i'r BCRC (British Cave Rescue Council) apelio brynhawn Sul am gymorth dan dimau gogleddol.
Mewn ymateb i'r apêl honno, fe wnaeth UWFRA (Upper Wharfedale Fell Rescue Association) ddanfon tîm bach o ogofwyr o Sir Gogledd Efrog.
"Fe deithiodd ein tîm dros nos a chael ychydig oriau o gwsg cyn ymuno â'r ymgyrch achub y bore 'ma," medd datganiad UWFRA.
"Hoffwn ni ddymuno taith ddiogel a chanlyniad llwyddiannus i'r holl dimau sy'n rhan o'r ymgyrch."
Mae ogofeydd Ffynnon Ddu, sydd wedi eu dynodi'n warchodfa natur, ymhlith yr hiraf yn y DU a dyma hefyd yr ogofeydd dyfnaf yn y DU â bron 300m o ddyfnder.
Maen nhw'n boblogaidd ymhlith ogofwyr ond ar safle sy'n cael ei argymell ar gyfer unigolion profiadol.