Bad achub bob tywydd newydd i'w chadw yng Nghei Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r RNLI wedi cyhoeddi y bydd bad achub bob tywydd yn cael ei chadw yng Nghei Newydd yn dilyn adolygiad newydd.
Roedd adolygiad yn 2016 wedi argymell cael gwared â'r cwch bob tywydd gan nad oedd yn cael ei defnyddio yn ddigon aml, ond yn dilyn ymgynghoriad yn ddiweddarach fe benderfynwyd mai dyma oedd y ffordd orau o sicrhau'r gwasanaeth fwyaf effeithiol yn yr ardal.
Dyma fydd yr unig fad achub bob tywydd rhwng Abergwaun a'r Bermo.
Dywedodd John Payne, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd Achub Bywyd yr RNLI "y byddai cwch o'r fath yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi ymgyrchoedd ar hyd Bae Ceredigion".
Cafodd ymgynghoriad ei gynnal yn ystod yr haf i glywed barn grwpiau ac unigolion oedd am drafod dyfodol y gwasanaeth ym Mae Caredigion.
Dywedodd yr RNLI bod sawl cyfrannwr wedi cyfeirio at yr effaith y mae cwch o'r fath yn ei gael ar effeithlonrwydd y gwasanaeth yn yr ardal.
Ychwanegodd Mr Payne: "Rydyn ni'n deall ei bod hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r criw yng Nghei Newydd, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog wrth achub bywydau er gwaetha'r ansicrwydd am y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd rhan yn y broses ymgynghori, a wnaeth helpu i ni ddeall y gwahanol ffactorau sy'n cyfrannu at waith gwylwyr y glannau ym Mae Ceredigion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2018