Arbrawf pleidlais gynnar i annog pleidleiswyr ifanc
- Cyhoeddwyd
Bydd rhai pobl yn ne ddwyrain Cymru yn gallu mynd i orsaf bleidleisio ddyddiau ynghynt dan gynllun peilot gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr etholiadau cyngor.
Mewn ymgais i godi'r nifer sy'n pleidleisio yng Nghymru, mae'r Llywodraeth yn gobeithio y bydd y cynllun pleidleisio hyblyg yn hwyluso'r broses ar gyfer etholiadau Mai nesaf.
Fydd pwyslais hefyd ar bleidleiswyr ifanc, trwy leoli un gorsaf pleidleisio cynnar yng Ngholeg Gwent ac un arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Daw'r cyhoeddiad wrth i adroddiad newydd ddod i'r casgliad bod angen ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc fwrw pleidlais.
'Ystod o rwystrau'
Cafodd 66,000 o bobl 16 ac 17 oed y cyfle i fwrw'u pleidlais am y tro cyntaf yng Nghymru yn etholiadau'r Senedd fis Mai eleni.
Ond roedd llai na'u hanner nhw wedi cofrestru i bleidleisio mewn pryd ar gyfer yr etholiad, ac mae yna amcangyfrif mai dim ond 60% o'r rhai a gofrestrwyd a ddefnyddiodd eu pleidlais.
Yn ôl yr adroddiad, ar ran Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree, roedd "ystod o rwystrau yn wynebu pobl ifanc wrth iddyn nhw droi allan i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn 2021 - rhai wedi eu gwaethygu gan y pandemig, rhai fyddai wedi amlygu eu hunain hyd yn oed heb y pandemig."
Ymhlith y rhestr o rwystrau sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad mae:
Amseru etholiadau ar ganol cyfnod arholiadau myfyrwyr;
Diffyg ymdrech gan bleidiau gwleidyddol i ymwneud â phleidleiswyr ifanc; a
Bylchau ac anghysondeb mewn darpariaeth addysg wleidyddol
Er mwyn gwella'r sefyllfa, mae'r adroddiad yn cynnig y dylid cofrestru pobl i bleidleisio yn awtomatig, newid amseru etholiadau, cysoni addysg wleidyddol i bawb, a rhoi blychau pleidleisio mewn ysgolion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd un blwch pleidleisio yn cael ei osod mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn mynd i'r afael â hyn - blwch pleidleisio fydd ar agor i bleidleiswyr hyd at wythnos cyn dydd y bleidlais swyddogol.
Fydd blychau pleidleisio eraill yn cael eu hagor yn gynnar yn swyddfeydd cynghorau Caerffili a Thorfaen, yn ogystal â wardiau lle bo canran y bleidlais yn draddodiadol isel ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd un arall yn cael ei rhoi yng Ngholeg Gwent yng Nglyn Ebwy, a hwnnw hefyd ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio hyd at wythnos cyn dydd y bleidlais ei hun.
Yn ôl Seren Salkead, sy'n fyfyrwraig yn y coleg, mae'n syniad da, ond dyw hi ddim yn meddwl mai dyma lle ddylai ymdrechion Llywodraeth Cymru gael eu canolbwyntio.
"Maen nhw wedi mynd yn syth i'r cam olaf," meddai. "Dylen nhw ddysgu pobl sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio yn lle rhoi ffordd iddyn nhw bleidleisio ond heb ddysgu nhw beth sy'n mynd ymlaen mewn gwleidyddiaeth, oherwydd mae lot o bobl ifanc heb unrhyw syniad beth sy'n digwydd."
Mae hi hefyd yn teimlo bod angen i bleidiau gwleidyddol wneud mwy i apelio at bobl ifanc.
"Dy'n nhw ddim rili yn cynrychioli ni. Does dim byd am bobl ifanc sydd wir yn apelio aton ni."
Yn 26 oed, Luke Fletcher o Blaid Cymru yw un o aelodau ieuengaf Senedd Cymru, ac mae e hefyd yn credu bod mwy gan bleidiau gwleidyddol i'w wneud.
"Mae rhaid i ni fel gwleidyddion, yn enwedig fi fel gwleidydd ifanc, sicrhau bod ni'n mynd mas i gymunedau a ddim yn aros ym Mae Caerdydd," meddai, "bod ni'n mynd i siarad â phobol sydd ddim fel arfer yn cael y cyfle i siarad a gwleidyddion.
"Dyna sy'n mynd i fod yn holl bwysig i sicrhau bod ni'n cael gwell cyrhaeddiad o ran ein polisïau ni, ond hefyd gwell cyrhaeddiad i beth mae'r Senedd yn ei wneud hefyd."
'Edrych ar ffyrdd newydd a modern'
Dim ond 46.6% o'r pleidleiswyr posib wnaeth pleidleisio yn etholiad y Senedd fis Mai eleni - ond dyna'r ganran uchaf erioed i Fae Caerdydd. Dim ond 42% o etholwyr ddewisodd fwrw pleidlais yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017.
Yn ôl Gweinidog y Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, mae arbrofi gyda ffyrdd mwy hyblyg o bleidleisio - a chaniatáu mwy o amser i bobl bleidleisio - yn allweddol er mwyn ceisio codi'r nifer sy'n dewis pleidleisio.
"Y nod fan hyn yw edrych ar ffyrdd newydd a modern o weithredu'r system bleidleisio, a'i wneud yn haws i bleidleisio," dywedodd.
"Pam na ddyle pobl allu pleidleisio yn eu colegau neu yn eu gweithleoedd neu yn yr archfarchnad? Mae gennym ni'r dechnoleg i'n caniatáu ni i wneud hynny."
Ond mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau addysg wleidyddol well hefyd.
"Rydyn ni wedi dechrau'r broses - gall pobl nawr bleidleisio yn 16 oed. Mae angen i'r system addysg nawr addasu a gwireddu eu disgwyliadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2019