Arestio menyw wedi i gi ladd bachgen 10 oed yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu yn ardal yr ymosodiadFfynhonnell y llun, Bronwen Weatherby | PA Wire

Mae Heddlu Gwent wedi arestio menyw yn dilyn marwolaeth bachgen 10 oed yng Nghaerffili ddydd Llun.

Bu farw Jack Lis wedi i gi ymosod arno ym Mhentwyn, Penyrheol am oddeutu 15:55 ar 8 Tachwedd.

Cafodd menyw 28 oed o ardal Caerffili ei harestio ar amheuaeth o fod yng ngofal ci oedd allan o reolaeth ac yn beryglus gan achosi niwed arweiniodd at farwolaeth.

Cafodd ei rhyddhau'n ddiweddarach ar fechnïaeth.

Fe wnaeth dau ddyn - un 34 oed o Aberpennar ac un 19 oed o ardal Caerffili - hefyd fynd i orsaf heddlu yn wirfoddol mewn cysylltiad â throsedd o fod yng ngofal ci peryglus, ond cafodd y ddau eu rhyddhau'n ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi'u gadael ger y fan y bu farw Jack Lis

Ddydd Mawrth fe wnaeth mam Jack, Emma Whitfield roi teyrnged i'w mab "hardd" ac "annwyl" ar ei chyfrif Facebook.

Deellir fod Jack a'i ffrind ar eu pennau eu hunain pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Fe aeth y ffrind i gael help cymydog oedd yn byw ar yr un stryd, ond na lwyddodd i atal y ci.

Dywedodd y cymydog hwnnw, Kirk Wiegold, wrth BBC Cymru y byddai "wedi hoffi gallu gwneud mwy i helpu'r bachgen ifanc, ond doedd dim byd allwn i wneud".

Mae pobl leol wedi honni mai pitbull Americanaidd oedd brîd y ci.

Ymchwiliad yn parhau

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: "Wrth i'n hymchwiliad barhau byddwn yn symud o'r ardal, a bydd y gwaith o adnabod brîd y ci hefyd yn mynd rhagddo.

"Gan ein bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o drosedd yn gysylltiedig â'r ymosodiad ac wedi siarad gyda dau unigolyn arall yn wirfoddol, rydym yn ceisio penderfynu lle y gallai unrhyw faterion troseddol fod wedi digwydd.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried ton ac iaith sy'n cael eu defnyddio mewn sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol allai arwain at adnabod unrhyw un sy'n gysylltiedig gyda'r mater yma fel rhan o'n hymchwiliad.

"Gallai unrhyw sylwadau effeithio ar ein gallu i erlyn person allai fod wedi cyflawni trosedd."

Apeliodd hefyd am wybodaeth gan y cyhoedd gan ofyn i bobl all fod o gymorth i ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2100392510.

Pynciau cysylltiedig