Adfywiad Cei Llechi Caernarfon yn 'dipyn o sioe'
- Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i bob tenant sy'n cymryd uned yn y Cei Llechi gynhyrchu ar y safle
Mae prosiect adfywio safle hanesyddol yng Nghaernarfon wedi ei gwblhau, gan ddynodi pennod newydd i ardal o'r dref.
Wedi ei arwain gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon, nod y prosiect £5.8m yw adfer hen adeiladau'r Cei Llechi ar lan Afon Seiont, yn ogystal â chodi rhai newydd o'u cwmpas.
Mae tystiolaeth o darddiad yr hen Gei Llechi yn dyddio yn ôl i 1611, gyda mapiau yn dangos y safle fel arwyneb lefel wedi ei dorri mewn i'r graig.
Ond erbyn heddiw mae'r Cei wedi ei drawsnewid ac yn cynnwys 19 o unedau gwaith, crefft a manwerthu, yn ogystal â thri llety gwyliau hunan arlwyo, ystafell gyfarfod ac ystafell ddehongli, a fydd yn cyflwyno hanes a threftadaeth y safle.

Cei Llechi Caernarfon wedi iddo gael ei adfywio
Mae'n rhaid i bob tenant sy'n cymryd uned yn y Cei Llechi gynhyrchu ar y safle - nid gwerthu'r cynnyrch yn unig - ac mae tenantiaid wedi dechrau agor yno yn barod, gan gynnwys hufen iâ Red Boat, Cwt Celf ac Oriel y Castell.
I Nicola Williams o siop hufen iâ Red Boat, mae hynny'n ychwanegu rhywbeth at apêl y safle.
"Mae'n dipyn o sioe, ac yn rheswm i bobl i ddod lawr a gweld be' sy'n digwydd behind the scenes," meddai.

Nicola Williams o siop hufen iâ Red Boat
Ond yn ôl Steffan Thomas o Galeri Caernarfon, mae'r pandemig yn golygu bod llai o denantiaid wedi ymrwymo i gymryd unedau.
Er hyn mae'n hyderus y bydd y 60% o unedau sydd ar hyn o bryd yn wag yn cael eu llenwi cyn hir.
"'Sa fo'n saff dweud, cyn Covid, 'sa ni'n llawn. Mae'r oes wedi newid. Ond mae ymholiadau'n dod fewn yn ddyddiol - sawl un yn ddyddiol - a dwi'n hyderus, erbyn diwedd y flwyddyn, y byddan ni'n llawn," meddai.
Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu drwy becyn cyllido sydd yn cynnwys £3.5m o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chyllid gan Lywodraeth Cymru, Cadw, Ymddiriedolaeth yr Harbwr a Chyngor Gwynedd fel rhan o brosiect ehangach £15m Glannau Caernarfon dros y blynyddoedd diwethaf.
Lluniau archif




Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd14 Medi 2017