900 o bobl yn cyfrannu at adeiladu tyrbin gwynt yn y de
- Cyhoeddwyd
Bydd tyrbin gwynt yn cael ei adeiladu yn Rhondda Cynon Taf wedi i dros 900 o bobl fuddsoddi cyfanswm o £2.2m ar gyfer y fenter.
Fe wnaeth 907 o bobl ledled y DU fuddsoddi yn y cynllun, sy'n cael ei adeiladu ym Mhontyclun.
Mae'r prosiect yn gynllun peilot gan gwmni Ripple Energy, oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch godi arian ac a fydd hefyd yn rheoli'r safle.
Y gobaith yw y bydd y tyrbin yn dechrau cynhyrchu ynni yn y flwyddyn newydd.
Bydd yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn cael ei werthu i gwmni Co-operative Energy, is-gwmni Octopus Energy.
Fe fydd y 907 o bobl sydd wedi buddsoddi yn y prosiect yna'n cael disgownt ar eu hynni nhw.
Mae lefel y gostyngiad yn dibynnu ar faint o ynni mae'r tyrbin yn ei gynhyrchu, prisiau trydan a sawl siâr sydd gan y person yn y cynllun.
Fe wnaeth pobl fuddsoddi tua £2,200 yn y prosiect ar gyfartaledd.
Mae Ripple yn amcangyfrif y bydd y cynllun yn arbed tua 25% oddi ar filiau ynni'r rheiny sydd wedi buddsoddi, a hynny trwy gydol bywyd 25 mlynedd y tyrbin.
Dywedodd Sarah Merrick o Ripple ei bod yn gobeithio y bydd y math yma o berchnogaeth yn dod yn un cyffredin ar draws Cymru a gweddill y DU.
Mae'r prosiect yn debyg i rai ynni hydro ym Methesda a Llanberis.
Un o'r rheiny sydd wedi buddsoddi yn y tyrbin gwynt ydy Gwilym Pritchard o Benygroes ger Caernarfon.
Mae eisoes yn cynhyrchu trydan i'w gartref gyda phaneli solar, a dywedodd ei fod wedi buddsoddi ym mhrosiect Ripple er mwyn gallu parhau i gael buddiannau ynni adnewyddadwy trwy'r gaeaf.
"Mae o'n mynd i helpu llenwi'r bwlch 'na pan dydy'r haul ddim yn tywynnu, a dod ag ynni gwynt i ni yn ystod stormydd - alla i eistedd yn yfed paned, yn edrych allan trwy'r ffenest a meddwl 'mae hi'n chwythu ond dwi dal yn cynhyrchu trydan'.
"Mae'n ffordd hefyd o gadw prisiau trydan i lawr i'r dyfodol, hyd oes y tyrbin - sef 20 i 25 mlynedd dwi'n meddwl."
Bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £4.12m, gyda Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £1.1m i Ripple.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud pe bai'r cynllun peilot yn llwyddiant y gallai arwain at bobl i allu buddsoddi mewn fferm wynt yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Pritchard: "Dwi'n meddwl ei fod o'n fodel da ar gyfer y dyfodol, a lasa fo fod yn berthnasol i sawl ardal yng Nghymru.
"Mae 'na lot o ardaloedd yng Nghymru sydd yn dlawd, ac mae'r ardaloedd hynny yn benodol weithia' yn addas ar gyfer prosiectau o'r math yma, lle fedar cymunedau lleol gymryd mantais o gael ynni adnewyddol.
"Yn lle bod yr arian yn mynd lawr y wifren fel petai, ei fod yn cael ei gadw'n fwy lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2017