Cofnodi dros 500,000 o achosion Covid yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cofnodi dros 500,000 o achosion Covid bellach, wedi i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 2,927 yn rhagor yn eu ffigyrau diweddaraf.
Mae cyfanswm o 501,028 o achosion positif wedi'u cofnodi yma bellach ers dechrau'r pandemig.
Cafodd pum marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn ffigyrau diweddaraf, oedd yn rhai 24 awr hyd at 09:00 ddydd Iau.
Yn ôl dull ICC o gofnodi, mae cyfanswm y marwolaethau bellach yn 6,382.
Ond mae'r gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi gostwng eto o 499.9 i 494.4.
Mae'r gyfradd yng Ngwynedd (882.3) yn parhau i godi ac yn parhau'n sylweddol uwch na gweddill y wlad.
Bro Morgannwg (656.5) a Sir Fynwy (567.7) sydd â'r cyfraddau uchaf ar ôl hynny, ac mae cyfraddau dros 500 yn siroedd Wrecsam, Ynys Môn, Caerdydd, Merthyr Tudful a Sir Benfro.
Dwy sir yn unig - Ceredigion (268.2) a Chonwy (397.6) - sydd â chyfraddau dan 400.
Mae 2,465,943 o bobl yng Nghymru wedi cael un brechiad Covid-19 a 2,260,662 wedi cael y cwrs llawn.
Mae 781,025 wedi derbyn brechiad atgyfnerthu erbyn hyn.