Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022: Estonia 0-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd Cymru i drechu Estonia oddi cartref nos Lun er gwaethaf perfformiad sigledig, gan gadw eu gobeithion o orffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol yn eu dwylo eu hunain.
Gyda Sorba Thomas, Harry Wilson a Connor Roberts yn dod i mewn i'r tîm, roedd hi'n amlwg mai ymosod oedd y flaenoriaeth i dîm Rob Page yn Tallinn.
Er i Danny Ward orfod gwneud arbediad o fewn y munud cyntaf, fe wnaeth Cymru gymryd rheolaeth o'r gêm am y cyfnod wedi hynny, gyda'r golwr Karl Jakob Hein yn arbed yn dda o ergyd Connor Roberts.
Ond o'r gic gornel fe ddaeth unig gôl y gêm, gyda Kieffer Moore yn manteisio ar flerwch yn y cwrt cosbi i sgorio'n hawdd wedi 12 munud.
Yn fuan wedi hynny fe gafodd Cymru ddihangfa, gyda Harry Wilson bron â rhoi gôl ar blât i'r tîm cartref, cyn i gyfuniad o Ward a Joe Rodon lwyddo i gadw'r bêl rhag croesi'r llinell gôl.
Roedd Cymru'n edrych yn sigledig ar adegau am weddill yr hanner cyntaf, ac fe ddaeth cyfle da arall i Estonia ar ddechrau'r ail hanner wrth i beniad Erik Sorga o gic rydd fynd dros y trawst o drwch blewyn.
Fe welodd Moore gerdyn melyn hefyd yng nghanol yr ail hanner, sy'n golygu na fydd ar gael i herio Belarws fis nesaf.
Bu'n rhaid i Ward arbed yn dda o ergyd Vlasiy Sinyavskiy gyda chwarter awr yn weddill er mwyn cadw Cymru ar y blaen yn erbyn tîm sydd 92 safle yn is yn netholion y byd.
Er i Estonia bwyso am yr amser oedd yn weddill, fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael yn y fuddugoliaeth a sicrhau triphwynt pwysig.
Yn y gêm arall yng Ngrŵp E nos Lun fe lwyddodd y Weriniaeth Tsiec i ennill o 2-0 ym Melarws, sy'n golygu bod Cymru'n aros yn y trydydd safle, tu ôl i'r Weriniaeth ar wahaniaeth goliau ond wedi chwarae un gêm yn llai.
Mae gan Wlad Belg fantais o bum pwynt ar y brig, sy'n golygu fod gorffen yn gyntaf bron yn amhosib i Gymru.
Y gemau ail-gyfle ydy'r llwybr mwyaf tebygol i Gwpan y Byd Qatar felly.
Er bod Cymru bron yn siŵr o gyrraedd y rheiny oherwydd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae'n dal yn bwysig iddynt anelu at gipio'r ail safle yn y grŵp.
Trwy orffen yn ail fe fyddai gan Gymru lwybr haws trwy'r gemau ail-gyfle, ac fe fydden nhw hefyd yn chwarae o flaen cefnogaeth y Wal Goch gartref.
Bydd Cymru'n herio Belarws a Gwlad Belg gartref fis nesaf, tra bo'r Weriniaeth Tsiec ag un gêm yn unig yn weddill, yn erbyn Estonia.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021