£100 i helpu rhai teuluoedd yng Nghymru i dalu biliau'r gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
RhiantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn agored i gartrefi lle mae o leiaf un person mewn oed gweithio ac yn gyfrifol am dalu biliau ynni

Bydd cartrefi yng Nghymru sydd ar gredyd cynhwysol a budd-daliadau oedran gweithio eraill yn cael cynnig taliad o £100 y gaeaf hwn i'w helpu gyda biliau tanwydd.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i 350,000 o aelwydydd elwa o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gwerth £38m.

Mae gweinidogion Llafur wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr yn Llundain o fethu â helpu teuluoedd ar ôl dileu'r codiad pandemig o £20 i gredyd cynhwysol.

Ond dywedodd y Torïaid eu bod yn rhoi mwy o gyllid nag erioed i Gymru.

Fe ddaw wrth i bwyllgor Senedd awgrymu y dylai cynghorau sir ddileu dyledion pobl sydd heb allu cadw i fyny â biliau treth cyngor, gyda Llywodraeth Cymru yn eu had-dalu.

Daw'r argymhellion mewn adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch effaith y pandemig ar ddyled, a glywodd fod beilïaid wedi defnyddio ymddygiad "ymosodol" yn ystod y cyfnod clo.

Disgrifiad,

Chris Summers o fudiad Porthi Pawb oedd yn trafod ar Dros Frecwast

Pwy sy'n gymwys?

Dywed Llywodraeth Cymru fod y taliad tanwydd gaeaf yn rhan o becyn cymorth o £51m i helpu teuluoedd, yn sgil ofnau am argyfwng costau byw.

O hynny, mae £1.1m yn cael ei roi "i gefnogi a hybu banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol".

Ond ni chyhoeddodd Llywodraeth Cymru sut y byddai'r £11.9m sy'n weddill yn cael ei wario, gan addo cyhoeddiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynllun Cymru ar wahân i daliadau tywydd oer, y mae Llywodraeth y DU yn talu amdanyn nhw.

Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae o leiaf un person mewn oedran gweithio, ac yn gyfrifol am dalu biliau ynni'r eiddo.

Rhaid bod pobl wedi bod yn hawlio unrhyw un o'r buddion canlynol rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022:

  • Cymorth incwm

  • Lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans cyflogaeth a chymorth

  • Credyd cynhwysol

  • Credydau treth gweithio

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cynllun ydy i helpu pobl dalu eu biliau dros y gaeaf

Bydd cynghorau'n ysgrifennu at dderbynwyr budd-daliadau, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, a gall unigolion hefyd hawlio trwy eu hawdurdod lleol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd y taliad yn effeithio ar fuddion cyfredol unigolyn nac yn destun treth.

Nid oes cadarnhad eto pryd y bydd y taliadau'n cael eu gwneud, ond y gred ydy ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer tua chanol mis Rhagfyr.

Mae prisiau nwy uchel wedi cynyddu cost ynni, gan arwain at lawer o ddarparwyr bach fynd i'r wal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn pryderu y gallai teuluoedd fod yn troi at fenthycwyr cost uchel neu siarcod benthyg i gael dau ben llinyn ynghyd.

'Seibiant dros dro'

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru: "Mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw go iawn diolch i brisiau cynyddol a thoriadau i daliadau budd-daliadau allweddol.

"Lle mae San Steffan wedi methu â chefnogi teuluoedd, bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn ac yn cefnogi'n cymunedau trwy'r cyfnod heriol hwn."

Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox: "Mae Llafur wedi bod mewn grym am y 22 mlynedd ddiwethaf ac yn anffodus mae wedi gadael Cymru gyda'r tâl cartref isaf ym Mhrydain, a'r nifer fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yn y DU.

"Mae'r llywodraeth Geidwadol yn helpu teuluoedd i dalu costau byw a chefnogi cartrefi sy'n agored i niwed trwy ostwng y gyfradd meinhau (taper) credyd cynhwysol o 63c i 55c, yn ogystal â chodi'r cyflog byw cenedlaethol i £9.50."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams fod yr ychwanegiad ariannol "i'w groesawu, er mai dim ond seibiant dros dro yw hyn rhag cyni Torïaidd a chostau byw cynyddol".