Owain Wyn Evans yn codi £2m ar ran Plant Mewn Angen

  • Cyhoeddwyd
Owain Wyn Evans

Mae'r cyflwynydd tywydd, Owain Wyn Evans, wedi codi dros £2m ar ran elusen Plant Mewn Angen ar ôl chwarae'r drymiau am 24 awr yn olynol.

Roedd yn ei ddagrau ar ddiwedd yr her, a ddechreuodd am 08:35 fore Gwener, ac wrth ddiolch i bobl am eu cefnogaeth.

"Rwy' jyst methu credu bod ni wedi neud e," meddai ar raglen Breakfast y BBC fore Sadwrn.

"Mae jyst wedi teimlo fel amser hir iawn ac mae wedi bod yn galed iawn ond mae haelioni pobl wedi bod yn anhygoel."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyflwynydd yn emosiynol wrth drafod y profiad ar raglen Breakfast y BBC bore Sadwrn

£1.617,046 oedd y cyfanswm erbyn iddo gael ei holi ar raglen Breakfast fore Sadwrn.

"Fedra'i ddim credu hynny, roedd o gwmpas £800,000 pan aethon ni ar yr awyr," meddai.

"Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd eu dwylo yn eu pocedi a chyfrannu.

"Mae Plant Mewn Angen yn helpu achosion sy'n agos iawn i'm calon.

"Rwy' wedi dysgu gymaint am brojectau nad oedd yn bodoli pan oeddwn innau'n ifancach, a fyddai wedi fy helpu i gymaint wrth dyfu lan."

Daeth ei allu fel drymiwr i sylw'r cyhoedd y llynedd wedi i fideo ohono'n drymio i fiwsig thema newyddion y BBC gael ei wylio gan filiynau o bobl a'i rannu ar draws y byd.

Fe ymunodd sawl ddrymiwr amlwg ag Owain am gyfnodau yn ystod yr her, ac yn un o uchafbwyntiau'r her ddrymio, fe gafodd gwmni 50 o ddrymwyr eraill er mwyn ail-greu'r perfformiad a aeth yn feiral.

"Mae wedi bod yn brilliant," meddai. "Roedd y drymwyr yna'r fy helpu ar hyd y ffordd yn dod ata'i ac yn chwarae tra roeddwn i'n drymio ac yn helpu iddo lifo fwy."

Dywedodd bod ei ddwylo'n iawn ar ddiwedd yr her ond "rydyn ni wedi cael problemau gyda fy mreichiau".

Roedd yr her yn caniatáu pum munud o hoe bob awr, ac fe lwyddodd Owain i newid ei siwt deirgwaith yn ystod y 24 awr.

Pynciau cysylltiedig