Ogof Ffynnon Ddu: Y pleser a'r perygl o fynd dan ddaear

  • Cyhoeddwyd
naturFfynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Ioan mewn dŵr dwfn yng ngwaith mwyn Ystumtuen

"Na, dyw'r ddamwain heb fy nychryn i, oherwydd mae pethau fel hyn yn digwydd dan ddaear. Mae'n rhaid bod yn barod ar gyfer unrhyw beth."

Dyna eiriau Ioan Lord, ogofäwr ac archwiliwr mwynfeydd o Gwm Rheidol am y ddamwain a fu yn Ogof Ffynnon Ddu ger Penwyllt ym Mhowys.

Ar 8 Tachwedd, achubwyd George Linnane o Fryste yn dilyn un o'r ymgyrchoedd hiraf erioed i achub person o ogof.

Mae Ioan wedi bod yn ogofa yn Ogof Ffynnon Ddu ddwy waith ac roedd ei ffrind yn un o'r criw oedd yn ogofa yn Ffynnon Ddu pan gwympodd George Linnane ac anafu ei hun, cyn bod yn sownd yno am dros 48 awr.

Bu Ioan yn sôn wrth Cymru Fyw am y wefr a'r peryglon o fynd dan ddaear, y pethau mae wedi eu darganfod mewn ogofâu ac am hanes Ogof Ffynnon Ddu a rhwydweithiau tanddaearol eraill Cymru.

Ogof Ffynnon Ddu

Ffynhonnell y llun, Timau Achub De a Chanolbarth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i 16 o dimau achub ogof ar draws Cymru Lloegr a'r Alban achub dyn yn Ogof Ffynnon Ddu yn y Bannau Brycheiniog

Ogof Ffynnon Ddu yw un o'r systemau naturiol mwyaf ym Mhrydain. Mae rhyw 30 milltir o dwnelau i fewn fyn'na a dim ond rhai sy'n hysbys. Mae mwy a mwy o dwnelau yn cael eu canfod wrth i bobl fel fi fynd lawr yna a gwthio'n hunain ym mhellach bob tro.

Mae llawer o fynedfeydd dan glo i Ffynnon Ddu, ond oherwydd bod ogofeydd yn cael eu ffurfio trwy systemau dŵr mae maint y twnelau yn gallu newid o fod yn 50 troedfedd i chwe modfedd o uchder.

Dwi wedi bod i ogofa yn Ffynnon Ddu ddwy waith. Roedd y ffrind aeth â fi yno (sy'n dymuno aros yn ddienw) yn un o'r criw aeth i Ffynnon Ddu gyda George pan ddigwyddodd y ddamwain. Faswn i byth yn mynd gydag unrhyw un sydd ddim yn gwybod ei ffordd rownd yno achos mae e mor hawdd mynd ar goll.

Mae sgêl rhwydwaith Ffynnon Ddu yn anferth; mae fel byd arall ond mae mor beryglus i fynd ar goll yn y twnelau achos mae popeth yn edrych 'run fath.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Ioan yn Ogof Ffynnon Ddu

Beth sydd i'w weld?

Stalagmid, stalactid, mineralau; y pethau prydferth yma mae pobl eisiau eu gweld wrth fynd i ogofa.

Ry'ch chi'n gallu darllen y graig mewn ogofeydd naturiol fel rhwydwaith Ogof Ffynnon Ddu a gweld pa fath o brosesau hydrolegol sydd wedi digwydd yno dros filoedd o flynyddoedd yn ôl a sut mae dŵr wedi cerfio'r llefydd yma.

Mae Ogof Ffynnon Ddu mewn craig calchfaen felly mae gyda chi'r stalactidau gwynion yma o'r calch lle mae'r dŵr yn golchi lawr trwy graciau yn y graig ac yn pigo a chario'r mineralau yma. Lle mae'r dŵr yn diferu oddi ar nenfwd yr ogofau wedyn, mae'r mineralau yma yn cael eu dyddodi ac mae'r stalactidau'n dechrau adeiladu fel gwellt.

Disgrifiad o’r llun,

Ogof galchfaen gyda stalagmid yn codi o'r llawr, a stalactid yn disgyn o'r to

Mae rhwydwaith yr ogofeydd o dan y Bannau Brycheiniog yn anhygoel o eang. Gallwch fynd o Ffynnon Ddu i mewn i Dan yr Ogof yn ôl pob sôn. Mae llawer o'r llefydd yma yn cysylltu gyda'i gilydd ond byddai'n cymryd chwe awr o gropian ar eich stumog!

Ffynhonnell y llun, geopictures.not
Disgrifiad o’r llun,

Mae ogofau Dan-yr-Ogof, sy'n agos i Ogof Ffynnon Ddu, ac yn cysylltu â'i gilydd dan ddaear, yn atyniad twristiaeth poblogaidd yng Nghwm Tawe ers 1912

Ond i bobl sy'n mwynhau ogofa mae hefyd yn gamp. Er enghraifft, mae gwefr mewn cwestiynau fel: A fydda i'n gallu ffitio drwy'r twll yna? Pa mor bell alla i fynd ffordd yna?

Antur a gweld pethau prydferth. Dwi'n credu taw'r cyfuniad yna yw beth sydd yn gwneud ogofa yn hwyl, yn enwedig yn Ffynnon Ddu achos mae gyda chi'r ddau beth.

Darganfod Cymru tanddaearol

Wnes i dyfu lan yng Nghwm Rheidol tu fas i Aberystwyth, ac ers i mi fod yn ddigon hen i gerdded, roedd fy nhad a fi'n cerdded dros y cwm i gyd; mae 'na gymaint o hen weithfeydd plwm, segur.

Roeddwn i'n cael fy atynnu at y twnelau oedd yn mynd mewn i'r mynydd a wnes i ddatblygu diddordeb angerddol yn rhain achos does dim haneswyr wedi cymryd sylw ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Dringo hen ysgol mwynwyr yng ngwaith mwyn Cwmystwyth

Os y'ch chi'n meddwl am fwyngloddio yng Nghymru ry'ch chi'n meddwl am byllau glo y de, a'r chwareli lan yn y gogledd. Does bron neb yn ymwybodol o'r gweithfeydd mwyn yng nghanolbarth Cymru ac o'n i moyn trio newid hynna felly wnes i ddechre ysgrifennu llyfre am hanes y gweithfeydd mwyn er mwyn dod â'r hanes coll yma i'r amlwg.

Trwy 'neud hynna roedd angen i fi fynd dan ddaear a phalu ac agor rhai o'r llefydd yma doedd neb wedi eu troedio ers yr 1850au er mwyn ffeindio arteffactau ac ati.

.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Rhod ddŵr 160 mlwydd oed yng ngwaith copr Ystrad Einion

Ar ôl i fi ddechre archwilio'r mwyngloddie y dechreus i ogofa. Mae ogofa yn golygu mynd lawr ogofeydd naturiol fel Ffynnon Ddu, ond mae mwynfeydd wedi eu creu gan ddyn felly mae'r dechneg fwy neu lai 'run peth ond mae rhai o'r peryglon yn wahanol.

Rwy'n gwneud mwy o archwilio mwynfeydd nag ogofa achos fod e'n fyw hanesyddol a bod mwy o'r arteffactau dynol a chysylltiadau personol mewn hen fwynfeydd.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Ioan ar bwys tram 120 mlwydd oed yng ngwaith mwyn Cwmystwyth

Ffeindio llwy bren sy'n 2000 o flynyddoedd oed

Dros y blynyddoedd dwi wedi ffeindio llawer o bethau diddorol drwy fynd dan ddaear ond y peth gorau a'r fwyaf hynafol oedd ffeindio rhywbeth oedd yn debyg i lwy salad bren.

Ar y llawr, yn hen waith plwm a chopr Penpontbren ar bwys Cwm Rheidol wnes i ei ffeindio. Oedd e'n edrych yn hynafol a chyntefig iawn, fel rhaw bach, felly wnes i anfon sampl i Brifysgol Rhydychen i ddyddio carbon.

Mae'n debyg bod y rhaw yma'n dyddio o'r flwyddyn 4 cyn Crist i'r flwyddyn 70 ar ôl Crist, felly mae'n gyn-Rufeinig neu'n Rufeinig, a roedd e jest yn gorwedd ar y llawr!

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Y llwy bren sydd tua 2000 o flynyddoed oed

Dyma'r unig offeryn palu pren o waith mwyn yng Nghymru sydd wedi goroesi yn ei gyfanrwydd. Oedd e'n anhygoel achos mae e wedi newid ein dealltwriaeth ni o weithfeydd Rhufeinig yn yr ardal yn llwyr.

Mae e yn y sied bellach. Does dim hawl gan unrhyw amgueddfa na lywodraeth i gymryd dim oddi arnoch os nad yw e'n drysor; hynny yw, yn aur neu'n arian. Fy nghynllun i yw sefydlu amgueddfa mwyngloddio Cymreig; mae gynnon ni amgueddfa lechi a glo ond does dim amgueddfa metel.

Mae gen i tua 500 o arteffactau sy'n dod o dan ddaear i gyd. Unwaith bydd yr amgueddfa wedi ei sefydlu, bydd modd i bobl Cymru weld darnau o hanes Cymru, a dyna yw'r pwynt.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Hen offer y mwynfeydd a'u gweithwyr sy'n dod â hanes yn fyw

Peryglon

Mae ogofa ac archwilio mwynfeydd fel peiriant amser, yn gallu mynd â rhywun 'nôl filoedd ar filoedd o flynyddoedd. Ond mae dan ddaear hefyd yn fyd peryglus.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

'Flowstone' a 'gour' yng ngwaith mwyn Ystumtuen

Dylai neb fentro dan ddaear heb dderbyn hyfforddiant ac mae'n holl bwysig mwynhau'r weithgaredd mewn grŵp dan arweiniad proffesiynol a gyda'r offer cywir.

  • Un o'r prif beryglon mewn gweithfeydd mwyn yw lloriau ffug. Gall lloriau pren sydd wedi'u hadeiladu 200 mlynedd yn ôl fod â cherrig wedi eu stacio ar eu pennau. Mae hyn yn golygu ei fod yn amhosib dweud os yw'r llawr yn soled, neu os taw dwy fodfedd o bren wedi'u pydru ydi'r oll sydd oddi tanoch, ac yn gollwng 200 troedfedd!

  • Mae cerrig yn cwympo yn risg arall mewn ogofâu naturiol a mwynfeydd. Mae'n debyg mai cerrig mawr yn cwympo achosodd i'r person ddisgyn yn Ogof Ffynnon Ddu.

  • Mae nwyon gwenwynig fel methan a charbon monocsid mewn hen waith fel pyllau glo. Dyw'r nwyon yma ddim yn weledol felly os oes dim meter gyda chi i fesur nwyon, gallwch farw'n syth.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Gosod rhaffau yng ngwaith mwyn Esgairlle

Rhaid cael caniatâd y tirfeddiannwr neu'r sawl sydd berchen yr ogof/mwynfeydd i fynd dan ddaear, a thrwydded ar adegau i'r rhai sydd dan glo fel Ogof Ffynnon Ddu. Mae'n syniad doeth i gael yswiriant tanddaearol hefyd.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Abseilio i lawr rhaffau fertigol yng ngwaith mwyn Rhoswydol

Os ydych chi'n awyddus i weld Cymru dan ddaear gyda'ch llygaid eich hunain, bydden i'n awgrymu i chi fynd ar daith tywys i gael blas neu ewch gyda chlwb lleol. Beth am ymchwilio i rai o'r rhain?

  • Anturon Mwyn Gorllewin Cymru

  • South Wales Caving Club

  • Llechwedd

  • Dan yr Ogof

Mae anturiwr fel fi yn mwynhau'r elfen o risg ond y wefr fwyaf o fynd dan ddaear yw darganfod hanes er mwyn ei rannu â phobl Cymru; mae'n fyd llawn dirgelion, cyfrinachau a straeon.

Ffynhonnell y llun, Ioan Lord
Disgrifiad o’r llun,

Cledrau a mwynau copr (gwyrddlas) yng ngwaith copr Ystrad Einion

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig