Mwy o ailgylchu yng Nghymru er gwaetha'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
AilgylchuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r data newydd yn dangos mai Sir Benfro sydd â'r cyfraddau gorau

Fe wnaeth cyfraddau ailgylchu a chompostio yng Nghymru wella y llynedd er gwaetha'r pandemig, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe wnaeth y gyfran o wastraff gafodd ei ailgylchu, ei gompostio neu ei ailddefnyddio yn 2020-21 gynyddu o 65.4% i 65.1% yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Mae hynny er i rai cynghorau ganslo neu ohirio casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn ystod y cyfnod clo.

Cymru sydd wedi bod â rhai o gyfraddau ailgylchu uchaf y byd dros y blynyddoedd diwethaf, y tu ôl i'r Almaen a Thaiwan.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer y DU yn dangos bod gan Gymru gyfraddau dipyn gwell na Gogledd Iwerddon, Lloegr, a'r Alban.

Pa ardaloedd sydd yn ailgylchu fwyaf?

Mae'r data newydd, gafodd ei gasglu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dangos mai Sir Benfro sydd â'r cyfraddau gorau, gyda 73.2% o'i holl wastraff dinesig yn cael ei ailddefnyddio.

Caerdydd sydd â'r cyfraddau gwaethaf wrth i 55.8% o wastraff gael ei ailgylchu neu ei gompostio yno, lawr o 58.1% yn 2019-2020.

Y brifddinas yw'r unig awdurdod lleol gyda chyfradd sy'n is na 60%, er bod gan Gaerffili (61.9%) a Thorfaen (62%) hefyd gyfraddau isel.

Mae gan bedwar awdurdod lleol gyfraddau dros 70%, wrth i Fro Morgannwg (70.6%) a Chonwy a Cheredigion (70.2%) ymuno â Sir Benfro.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hefyd yn falch bod y gyfran o wastraff sydd yn mynd i gladdfeydd sbwriel yn parhau i ddisgyn.

Pynciau cysylltiedig