'Angen i ni fwyta llai o gig,' medd Lee Waters AS
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl yng Nghymru fwyta llai o gig er mwyn delio gyda newid hinsawdd, medd un gweinidog yn Llywodraeth Cymru.
Ond os yw pobl yn bwyta cig mae'n bwysig ei fod yn gig o Gymru ac yn "gig o ansawdd da", medd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.
Mae ymgynghorwyr annibynnol ar newid hinsawdd wedi awgrymu y dylid bwyta 35% yn llai o gig erbyn 2050.
Yn ôl llywydd COP26, Alok Sharma AS, mae bwyta llai o gig yn fater o "ddewis personol".
Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymrwymo'n gyfreithiol i ostwng allyriadau i sero net erbyn 2050.
Yn y cynllun sero net, dolen allanol diweddaraf, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r uchelgais yn ystod yr ugain mlynedd nesaf yw newid diet pobl - gan gynnwys "bwyta llawer mwy o ffrwythau a llysiau, llai o gig coch a chig sydd wedi ei brosesu, llai o gynnyrch llaeth a llai o fwydydd sydd â llawer o fraster a siwgr".
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol sy'n nodi y dylid "bwyta 20% yn llai o gig a chynnyrch llaeth erbyn 2030, gan godi i 35% erbyn 2050 ar gyfer cig".
Y nod, meddid, yw bod pobl yn bwyta cynhyrchion o blanhigion yn hytrach na chig a chynnyrch llaeth.
Ond mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn nodi na "ddylai lleihau allyriadau olygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu yn y DU a bod mwy yn cael ei fewnforio".
Yn gynharach fe ddywedodd y gweinidog newid hinsawdd, Julie James, y byddai bwyta llysiau a ffrwythau na sy'n eu tymor yn rhywbeth prin yn y dyfodol.
Wrth gael ei holi ar raglen Politics Wales ddydd Sul a ddylai pobl fwyta llai o gig dywedodd y Dirprwy Weinidog Hinsawdd, Lee Waters AS: "Yn amlwg mae'r wyddoniaeth yn dweud bod angen i ni fwyta llai o gig.
"Nawr, mae gwleidyddiaeth hwnna yn anodd. Dwi'n meddwl mai'r hyn sy'n addas i'w ddweud yw 'bwytewch llai o gig ac fe ddylai'r cig ry'ch yn ei brynu fod yn lleol ac o ansawdd da'.
"Y broblem i'n ffermwyr yw cystadleuaeth gan fewnforion rhad. Felly dyna'r ffordd i sicrhau y ddau beth," ychwanegodd.
Mae'r sylwadau yn dangos rhywfaint o newid yn agwedd Llywodraeth Cymru. Ym Medi 2019 fe ddywedodd y gweinidog amaeth, Leslie Griffiths, nad oedd hi'n credu bod angen i bobl fwyta llai o gig.
"Dewis personol yw e ac mae'n fater o gydbwyso," medd Ms Griffiths.
Wrth siarad ar drothwy cynhadledd COP26 yn Glasgow dywedodd Alok Sharma AS: "Rwy'n credu'n gryf mewn annog pobl i symud yn y cyfeiriad iawn.
"Beth sy'n rhaid sicrhau yw ein bod ni fel llywodraeth yn annog pobl i wneud penderfyniadau yn yr un modd ag yr ydym yn cynnig grantiau i bobl sy'n prynu ceir allyriadau isel," meddai.
Cafodd papur a oedd yn argymell newid "patrymau bwyta" i gynhyrchion planhigion ei dynnu oddi ar wefan Llywodraeth y DU yn fuan wedi'i gyhoeddi - yn ôl yr Adran Fusnes roedd y ddogfen yn ymchwil academaidd yn hytrach na pholisi swyddogol.
Gan siarad ar raglen Dewi Llwyd dywedodd y cyn wleidydd ac ymgyrchydd amgylcheddol Cynog Dafis fod y trafodaethau yn Glasgow yn rhai "lled addawol" ac ychwanegodd mai newid hinsawdd ydi'r "argyfwng mwyaf i ddynoliaeth erioed".
Fe wnaeth hefyd ddisgrifio targed y trafodaethau i beidio a chynyddu tymheredd y ddaear o fwy na 1.8% fel un "trychinebus" gan ddweud mai'r targed yw 1.2% "sydd dal yn rhy uchel".
Tra bod gwleidyddion eisoes yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i daclo'r broblem, yn ôl Mr Dafis "does dim sicrwydd y bydd yr ymrwymiadau yn cael eu gweithredu".
"Y syniad oedd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 1992 ac yn lle hynny maen nhw wedi cynyddu.
"Mae hi wedi mynd yn ben set arnom ni," meddai Mr Dafis.
"Ac ynglŷn â'r cytundebau sydd wedi eu gwneud neu yr addewidion sydd wedi eu gwneud yn Glasgow mi fyddai rheini, petai nhw yn cael eu gweithredu, yn golygu ein bod ni ddim yn mynd yn uwch na chynnydd mewn tymheredd o 1.8% - mi fyddai hynny yn drychinebus.
"1.2% yw'r targed ac mae hynny yn rhy uchel - felly mae 1.8% yn fethiant eithaf pwysig."
'Yr argyfwng mwyaf erioed'
Ychwanegodd Mr Dafis mai "ymrwymiadau yw rhain" gan ddweud nad oes unrhyw sicrwydd y byddan nhw'n cael eu gweithredu.
Dywedodd y bydd canlyniadau COP26 yn ddibynnol ar bwysau cyhoeddus ar lywodraethau i weithredu ac yn dibynnu ar os yw'r "peth yn dechrau magu momentwm".
Er hyn dywedodd fod yna rai "pethau positif" gan nodi llwyddiannau ym myd technolegol a bancio.
Ychwanegodd ei fod yn cytuno â'r ymgyrchydd Greta Thunberg am yr angen am newid sylfaenol "yn ein ffordd o fyw".
Wrth drafod cynnyrch anifeiliaid dywedodd fod angen canolbwyntio ar olrhain y bwyd sy'n cael ei fwydo i'r anifeiliaid yn y dechrau a hefyd o le mae'r cig yn dod.
"Mae na waith addysgu aruthrol er mwyn ein tywys i'r ffordd newydd o fyw.
"Dyma yr argyfwng mwyaf dwi'n credu y mae dynoliaeth wedi ei wynebu erioed," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019