Ateb y Galw: Yr hanesydd canoloesol Owain Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Yr hanesydd canoloesol Owain Wyn Jones sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Peredur Glyn Webb-Davies yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Abertawe, cafodd Owain ei fagu yn ardal ddeheuol Penrhyn Gŵyr a'r Mwmbwls.
Mae'n hanesydd canoloesol, ac yn arbenigwr ar y croniclau a'r hanesion gan bobol ganoloesol Cymru. Wedi setlo yn y gogledd ers degawd bellach, mae'n byw yng Ngerlan, Bethesda ac yn darlithio hanes ym Mhrifysgol Bangor. Ei brif ffocws dysgu ar y foment yw Rhyfel Cartref America.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio bod ar wyliau rhywle twym pan o'n i'n ifanc iawn - Sbaen dwi'n credu - a chwarae ar y traeth a bwyta Calippos. Dwylo stici a thywod.
Ond ma' hefyd cof 'da fi o fod yn y pram tu fas i'r tŷ tra odd mam yn siarad 'da ffrindie. Sai'n siŵr pa un o'r cofion hyn ddaeth gyntaf.
Braidd yn wael i hanesydd beidio gallu rhoi trefn ar ddigwyddiadau, ond dyna ni!
Dy hoff le yng Nghymru, a pham?
Ma' cymaint ohonyn nhw, a dim ond darganfod rhywle newydd sydd angen neud cyn i rywun ffeindio hoff le newydd!
Pan o'n i'n tyfu lan, 'odd coedwig Clyne yn Abertawe, a'r traeth a'r cwm tu ôl Pwll Du ar Benrhyn Gŵyr, yn lefydd pwysig iawn i fi.
Ond ers byw ym Methesda, ma' mynyddoedd y Carneddau wedi cymryd fy nghalon - yn enwedig Ffynnon Caseg, y llyn bychan rhwng Carnedd Llywelyn a'r Elen - y lle prydfertha, mwyaf hudolus i fi erioed fod, yn enwedig yn nhawelwch y cyfnod clo.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Siarad gormod, methu crynhoi.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Ma' hwn yn mynd i swno'n rili anghywir, ond cwpwl o fisoedd yn ôl o'n i'n nofio gyda ffrind yn Sir Benfro, a nath e bron foddi a chael ei achub gan badl-fyrddiwr.
Mae'n ddoniol achos 'nath e ddim boddi, ac hefyd odd e'n casáu padl-fyrddwyr ag o'n i a fe jyst yn cael dadl am hwnna wrth i ni gerdded lawr i'r traeth.
A wedyn un ohonyn nhw'n hwylio heibio ac achub ei fywyd!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae'n anodd dewis un, nagyw e?
Odd y noson gwrddes i â fy nghariad, Gemma, yn un eithaf arbennig. Llawn gobaith a sicrwydd!
Fel arall fi'n cofio cael nosweth arbennig rhyw nos galan, lawr yn ffarm yn Sir Benfro. Pump ohonom ni'n chwarae ring of fire (gêm gardiau/yfed) a jyst yn gwrando ar Rumours gan Fleetwood Mac ar lŵp. Ac wedyn cerdded tu fas i'r flwyddyn newydd a gweld y sêr i gyd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fi'n neud trwy'r amser, yn enwedig wrth wylio ffilmiau neu wrth ddarllen llyfrau.
Rhai ohonyn nhw wir braidd yn embarrassing.
O'n i'n gwrando ar gerddoriaeth yn y bath pwy nosweth a nes i lefen, wrth wrando ar Belle and Sebastian fi'n credu. Ma hwnna'n neud e swno'n hollol depressing ond o'n i wir yn hapus! Jyst emosiynol!
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta'n wael - fi'n bwyta gormod o losin, losin rhad hefyd!
A jyst mynd am fast food pan ddylen i gael cinio go iawn. A fi'n hollol anhrefnus a'n anghofio popeth!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Un llyfr nes i garu pan ddarllenes i e blynyddoedd yn ôl, ac ailddarllenes i yn ddiweddar, yw Towers of Trebizond gan Rose Macaulay. Mae'n nofel ddoniol, grwydrol, amwys am genhadaeth Anglicanaidd i Dwrci yn yr 1950au. Sy'n neud i'r peth swnio braidd yn sych, ond mae'n llawn hiwmor a hanes a jyst yn nofel brydferth.
Mae'n crwydro o'r presennol i'r canol oesoedd a'r Hen Roegiaid a nôl. Mae'n cyffwrdd ar themâu o rhywedd mewn ffyrdd diddorol wrth ystyried y cyfnod - mae rhywedd y prif gymeriad yn amwys.
Ac mae wir yn ddoniol. O'n i'n drist pryd bu farw Richard Griffiths, achos bydde fe 'di bod yn berffaith i chwarae'r Tad Chantry-Pigg yn unrhyw addasiad ffilm.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fi'n teimlo bod y cwestiwn yma'n gofyn i rywun gadw at y llinell rhwng ateb 'weddol ddoniol' ac un sy'n wir arswydus.
Fi'n cofio siarad â'r bardd Gruffudd Antur am faint o fardd da oedd e, a faint o'n i 'di mwynhau ei waith, rhestru pethe odd e 'di ysgrifennu ac o'n i 'di mwynhau.
Doedd dim un o'r pethau rhestrais i yn bethe odd e wedi actually ysgrifennu. Dim un.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Ma' rhaid i fi gymryd y cyfle, fel hanesydd!
Hoffwn i fynd am sesh gyda Cynddelw Brydydd Mawr, bardd Cymraeg amlycaf y 12fed ganrif. Roedd e 'di gwasanaethu fel Pencerdd mewn cymaint o lysoedd y tywysogion, a bydde fe'n gwybod yr holl straeon a'r holl gossip.
Odd e'n fardd ardderchog, ac mae'r stôr o hen chwedlau a hanes oedd yn ei ben yn amlwg wrth ddarllen ei waith. Hefyd, odd e'n gymeriad llawn hyder, yn hunan-hyrwyddwr penigamp.
Bydde fe'n gyfle arbennig i ddod i nabod un o ffigyrau mawr orffennol Cymru, rhywun sy'n cynrychioli ei gyfnod ond hefyd rhywun sy 'di cyfleu rhywfaint o'i gymeriad yn ei waith. A ma' rhyw deimlad 'da fi bydde fe'n lico'i ddiod.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Un peth sy' braidd yn gywilyddus yw bo' 'da fi dueddiad i fynd yn obsessed gydag ambell i gêm gyfrifiadur - y rhai Total War yn enwedig, sy' eithaf trist!
Ond does dim 'da fi gyfrifiadur sy'n rhedeg y math yna o gemau nawr, felly fi 'di mynd braidd yn obsessed gyda dysgu Gaeleg yr Alban ar Duolingo. Sy' tamed bach mwy cynhyrchiol, o leiaf!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gweld teulu a ffrindiau, yn sicr, a mwynhau'r pleserau dydd-i-ddydd am un tro olaf.
Rheiny yw sylwedd bywyd.
Mynd am wâc yn gynnar yn y bore, gweld y rhai fi'n caru, mynd am gwpwl o beints yn y dafarn gyda'r nos.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Gan fod y ffôn di torri yn ddiweddar, fi 'di colli rhan fwyaf o'n lunie diweddar!
Ond ma' dwy gath gyda ni gartre, Gwenci a Pws Pwdin, a'r ddau yn hynod o giwt. Ma'r llun 'ma o Bws Pwdin yn edrych fel sosej yn highlight.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Weden i Kim Deal o'r Pixies. Neu Cate Le Bon. Jyst y profiad o fod yn rhywun mor cŵl. Fi rili ddim yn berson cŵl iawn.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Myfyr Prys