Aelodaeth Urdd am £1 i blant sy'n cael cinio am ddim

  • Cyhoeddwyd
Gweithgaredd UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

£10 yw aelodaeth blwyddyn gyda'r Urdd, ond bydd yn gostwng i £1 i blant sy'n cael cinio am ddim

Mae'r Urdd i gynnig aelodaeth blwyddyn i blant ysgol o gefndiroedd difreintiedig am £1.

A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ddydd Sadwrn, mae'r mudiad wedi datgan "ymrwymiad pellach i gefnogi plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel".

Fe ddaw hyn wrth i nifer plant Cymru sy'n gymwys i gael cinio ysgol ddringo eto'n ystod y pandemig.

Yn ôl ystadegau diweddar mae 31% o blant Cymru'n byw mewn tlodi - y wlad sydd â'r ganran ucha'n y Deyrnas Unedig.

£10 yw aelodaeth blwyddyn gyda'r Urdd ar hyn o bryd, ond fe fydd hyn yn gostwng i £1 i blant sy'n cael cinio am ddim.

105,000 o blant yn gymwys

Mae mwy na un ymhob pump o ddisgyblion ysgol Cymru'n gallu cael cinio am ddim.

Mae cyfanswm o dros 105,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle mae'r incwm yn isel neu'n dibynnu ar gymorthdaliadau.

Gyda phob ceiniog yn cyfri i'r teuluoedd yma, mae'r Urdd am gynnig aelodaeth am £1 iddyn nhw fel eu bod nhw'n gallu elwa o weithgareddau'r mudiad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Lewis mai'r nod ydy cael mwy o blant nag erioed i ymwneud â'r mudiad

Yn ôl prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis: "Mae'r pandemig wedi cael effaith ar yr Urdd - mae pawb yn ymwybodol o hynny - ond mae hefyd wedi cael effaith ar les ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru.

"Mae wedi rhoi cyfle i ni fel mudiad ailasesu ac i flaenoriaethu, ac yn naturiol ein nod ni fel mudiad yw sicrhau bod 'na fwy o blant a phobl ifanc yn ymwneud â'n gweithgareddau ni nag erioed o'r blaen."

Cynllun 'arbennig'

Ym Mhentre-baen yng ngorllewin Caerdydd y mae ysgol gynradd Coed y Gof.

Yma, fel mewn cymaint o ysgolion eraill Cymru, mae 'na ganran sylweddol - 34% o blant - yn derbyn neu'n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim.

Ers dechrau'r pandemig mae hynny wedi dringo 10%.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sara Edwards mae gostyngiad o £9 yng nghost aelodaeth yn "lot o arian"

Dywedodd Sara Edwards, cydlynydd yr Urdd Ysgol Coed y Gof, fod y cynllun yma gan y mudiad yn un arbennig.

"Mae'n beth mor fawr i'r ysgol a hefyd i'r teuluoedd, achos er bod £10 ddim i'w weld yn lot o arian - i lot o deuluoedd mae e'n lot o arian ac mae'r gostyngiad i £1 yn r'wbeth arbennig," meddai.

"Beth fi'n gweld yw achos bod y teuluoedd falle yn ddifreintiedig a di-Gymraeg, dy'n nhw ddim yn cael cyfleoedd falle i wneud y pethau yn Gymraeg - nofio, chwaraeon, unrhyw beth fel'na - felly mae cael y cyfleon hyn yn allgyrsiol yn Gymraeg yn arbennig."

'Y broblem fwyaf yng Nghymru'

Ers ei sefydlu mae'r Urdd wedi cefnogi cenedlaethau o blant o bob cefndir.

Mae 'na gronfeydd eisoes ar gael i gefnogi plant o gefndiroedd llai breintiedig i fynd i ganolfannau preswyl y mudiad fel Llangrannog a Glan Llyn.

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sally Holland fod cynlluniau fel hyn yn bwysig i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, tlodi plant yw un o'n heriau mwyaf, ac fe fydd y cynllun yma'n gam ymlaen at gydraddoldeb a thegwch.

"Dwi'n credu mai dyma'r broblem fwyaf yng Nghymru ac mae rhaid i ni gyd daclo'r mater," meddai.

"Wrth gwrs mae'n bwysig i'r llywodraethau wneud y mwyaf - San Steffan a Chymru - ond mae 'na bethau mae sefydliadau, gan gynnwys y trydydd sector fel yr Urdd, yn gallu gwneud.

"Dwi'n credu y bydd camau fel hyn yn bwysig i'r teuluoedd sy'n gweld costau'n codi bob wythnos ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig