Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Wealdstone

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Wealdstone ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y tîm cartref ei chael hi'n anodd torri trwy amddiffyn yr ymwelwyr, gan fethu â sgorio am y tro cyntaf y tymor hwn.

Ond Wrecsam gafodd y cyfleoedd gorau, gyda pheniad Paul Mullin yn cael ei hatal ar y llinell gôl, a pheniad arall gan Jake Hyde yn mynd heibio'r postyn.

Mae'r canlyniad yn golygu fod tîm Phil Parkinson yn aros yn y nawfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol, dau bwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.