£35m i helpu adferiad busnesau bach wedi Covid
- Cyhoeddwyd
Bydd busnesau bach yn gallu gwneud cais o gronfa gwerth £35m gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i dyfu ar ôl y pandemig.
Mae gweinidogion hefyd wedi cyhoeddi bod £10m ar gael i hyfforddi rhai gweithwyr, gan gynnwys gyrwyr lori a gweithwyr gofal.
Ond mae un cwmni recriwtio'n rhybuddio y gall gymryd blynyddoedd i sefydlogi'r farchnad lafur oherwydd prinder staff.
Yn ôl y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, bydd yr arian yn helpu busnesau i ddatblygu a datgarboneiddio.
'Newyddion da i fusnesau'
Wrth ymweld â Crosskeys yn Sir Caerffili, dywedodd Mr Gething y bydd yr arian yn cefnogi busnesau dros y gaeaf ac yn helpu cynyddu nifer y gweithwyr gyda sgiliau penodol.
Bydd £35m ar gael trwy'r awdurdodau lleol i helpu busnesau dyfu a lleihau eu hôl-troed carbon.
Bydd £10m ychwanegol yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol, gan dargedu sectorau allweddol fel gyrwyr HGV a staff gofal.
Dywedodd Mr Gething wrth BBC Cymru: "Rydym yn anelu at sicrhau bod busnesau'n gallu buddsoddi gyda mwy o hyder, yn y gobaith ein bod o'r diwedd yn cefnu ar y pandemig. Ac fe ddylai wneud gwahaniaeth o ran datgarboneiddio ein busnesau a buddsoddi mewn pobl, sgiliau a swyddi lleol.
"Rydyn ni'n disgwyl y byddwn ni'n gallu buddsoddi a chefnogi tua 1,000 o fusnesau gyda'r cynllun hwn, mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Felly rwy'n credu ei fod yn newyddion da iawn i fusnesau lleol ledled Cymru."
'Tynnu'r risg o drafodaethau'
Dywedodd Ben Cottam, pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB), fod y cyllid "i'w groesawu'n fawr ac yn hir ddisgwyliedig," ac y byddai'n helpu cwmnïau gyda'u cynlluniau i ehangu.
Mae cymorth o'r fath, meddai, "yn helpu tynnu'r risg o rai o'r trafodaethau y mae busnesau'n eu hwynebu ynghylch ble maen nhw'n mynd nesaf - boed hynny yn nhermau datgarboneiddio a'u cyfraniad at gyrraedd sero net, neu'r ffordd y maen nhw'n arloesi eu busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd".
Ychwanegodd Mr Cottam fod pryderon ynghylch costau uwch i fusnesau'r flwyddyn nesaf. "Rydym yn ymwybodol bod rhai cwestiynau mawr ar y gorwel fel y newid yn y cap ar brisiau ynni, a chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol sy'n cynyddu."
Roedd Vaughan Gething yn ymweld â'r cwmni effeithlonrwydd ynni Advance Energy Services yn Crosskeys, a ddefnyddiodd arian o gronfa adfer Covid-19 flaenorol i ehangu.
Mae'r cwmni'n gosod boeleri a phympiau gwres ac yn inswleiddio cartrefi ledled Cymru.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Michael Wayman fod y pandemig wedi gorfodi'r busnes i gau, ond erbyn hyn mae'n ehangu'n gyflym.
"Roedd yn gyfnod anodd iawn i ni, heb os," meddai. "Fe wnaethon ni gau am saith mis i bob pwrpas. Doedd llawer o bobl, yn naturiol, ddim eisiau ni yn eu cartrefi."
Staff da yn allweddol
Manteisiodd Mr Wayman ar y cynllun ffyrlo i gadw staff, a chael £20,000 o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Prynodd offer arbenigol gyda'r grant er mwyn gallu gwneud mwy o waith insiwleiddio.
"Fe wnaeth hynny greu pedwar swydd yn y maes a dau yn y swyddfa," dywedodd. "Yn y pen draw, mae'n sicrhau bod cartrefi'n fwy ynni effeithiol ac yn gwella ansawdd bywyd pobl."
Mae'r cwmni'n gobeithio ehangu eto, gan ddyblu'r gweithlu i 40, ond mae'n anodd llenwi swyddi gwag.
"Byddai unrhyw fusnes yn datgan pa mor allweddol yw staff, felly rydym yn ceisio eu trin yn dda. Ond mae recriwtio yn anodd iawn - mae yna alw mawr am drydanwyr, peirianwyr gwresogi, plastrwyr a seiri."
'Dim llif o ymgeiswyr'
Ar gyrion Casnewydd mae rheolwr gyfarwyddwr cwmni recriwtio Acorn yn rhagweld y bydd yn cymryd blynyddoedd i fynd i'r afael â phrinder staff.
Dywedodd Bernard Ward yn ddiweddar bod rhai gyrwyr HGV yn cael eu talu cyflogau uwch na chyfreithwyr, wrth i brinder chwyddo cyfraddau tâl.
Mae'r gystadleuaeth am weithwyr yn parhau, gyda llai o ymgeiswyr priodol ar gael o'i gymharu â'r misoedd diweddar.
"Mae'n hurt o brysur ar hyn o bryd," meddai Mr Ward. "Rwy'n meddwl bod pethau wedi gwaethygu yn yr wythnosau diwethaf.
"Does dim llif o ymgeiswyr sydd ar gael - rydyn ni oll yn mynd ar ôl yr un math o ymgeiswyr.
"Mae hyfforddiant yn allweddol bwysig, yn yr holl sectorau - o yrru, i nyrsio a gofal a chogyddion ac yn y blaen. Rwy'n meddwl bod angen i'r llywodraeth weithio'n agos iawn gyda chyflogwyr i sicrhau bod pobl yn cael eu hyfforddi'n effeithiol."
Rhybuddiodd hefyd y bydd yn cymryd "mwyaf tebyg, rhwng tair a phum mlynedd" i'r farchnad lafur sefydlogi ac i lenwi'r bwlch o ran sgiliau.
"Bydd pob sector yn cael ei effeithio'n wahanol," dywedodd, "ond bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn heriol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021